Tudalen:Cymru fu.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nentydd a mynyddau, afonydd a threfydd, y rhai a lithrent heibio iddo fel ffug-olygfeydd mewn breuddwyd gwrach. Cyrhaeddodd ben ei daith yn mhen dwy- awr union i'r amser y cychwynodd. Buasai hyn yn curo pob trên yn deilchion.

Byddai Robin yn cael cymdeithas ei gyfaill yn rhodfeydd cyffredin bywyd; ac yn gwneud iddo trwy ei gyfrwysdra gyflawni llawer o fân orchwylion yn ei le, a a phob amser yn llwyddo i siomi a thwyllo yr archdwyllwr. yr oedd y Dewin un diwrnod ar ei daith i godi pytatws. "I b'le yr ei di?" ebai'r diafol. "I gynull cnwd y maes," oedd yr ateb." Roddi di yr haner i mi am dy helpio?" "Gwnaf," ebai Robin;" pa un fyni di ai'r hyn sydd allan o'r ddaear ai'r hyn sydd yn y ddaear?" "Yr hyn sydd allan o'r ddaear," ebai Apolyon gan dybied mai i fedi yr oeddynt eu dau yn myned. Felly cafodd Robin y pytatws a diafol y gwlydd. Drachefn, yr oedd Robin dro arall yn myned i fedi, a chymerodd geiriau cyffelyb le rhyngddynt, a'r diafol y tro hwnw a ddewisodd yr hyn oedd yn y ddaear, gan iddo gael ei siomi o'r blaen. A chafodd Robin frig y gwenith a'r diafol ei wraidd.

Gwarchod ni! onid allem lanw cyfrol drwchus a thraddodiadau anhygoel cyffelyb? Ar gefn Robin Ddu Ddewin y mae pobl y Gogledd yn rhoddi pob cast a hen chwedl ryfedd. Deallwn mai Sion Cent, bardd enwog yn ei ddydd, ydyw bwch diangol gwyr Gwent a Dyfed; a phriodolir ambell un o'r chwedlau hyn i'r naill a'r llall.

Un ysgub ramantus arall, a dyma ni yn troi pen ar ein mwdwl hwn o chwedlau yn nghylch Robin Ddu. — Efe a addawodd lawer tro y celai y diafol ef ar ol ei farw — pan ar ol dwyn ei gorph trwy ddrws ei fwthyn a thrwy y porth i'r fynwent; a chredai'r bôd ufferuol nad oedd modd iddo gael ei siomi yn hyn beth bynag. Pan fyrhaodd ei anadl, ac y gorweddai ar ei wely cystudd diweddaf. gwyliai y diafol yn ddyfal trosto, rhag iddo trwy ryw ddichell geisio ysgoi cyflawniad yr amod. Ond profodd Robin eto yn rhy dost iddo; yr oedd wedi rhoddi gorchymyn fisoedd yn ol i un o'r cymydogion yn mha fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu. Yr oeddynt i dori agen yn mur y bwthyn, a myned a'r arch allan trwy