Tudalen:Cymru fu.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw, er mwyn ysgoi y drws; a gochel porth y fynwent trwy ei gladdu tan wâl y fynwent — haner i mewn ynddi a haner allan o honi.

Felly, ni chafodd y diafol na phytatws, na gwenith, na chorph Robin Ddu; ac er cyfrwysed ydoedd, ac ydyw o ran hyny, efe a gyfarfyddodd â'i gyfrwysach yn mherson y Dewin dichellgar o Arfon. Nid oedd ganddo ond gadael y corph yn y fan yr oedd, a dychwelyd yn waglaw a siomedig i rhyw gŵr arall o'i ymherodraeth. Ac oddiar y traddodiad hwn y tarddodd y ddiareb, "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn byrion;g ac un arall, "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi. "

TRAETH YR OERLEFAIN.

GAN WMFFRE DAFYDD

.

Dyna ydyw enw y maes-draeth a ymestyna o Fangor i Gonwy, gyda glanau y Menai ac afon Gonwy. Dywed traddodiad mai yr achos o'r enw ydoedd hyn: — Yn mhen y flwyddyn ar ol lladd Elidir Mwynfawr, daeth gwŷr Ystrad Glwyd, yn ngogledd Prydain, i Arfon i ddial ei waed, a llosgasant dref Caernarfon yn ulw. Am hyn, penderfynodd Rhun fab Maelgwyn Gwynedd dalu y pwyth iddynt, ac anfonodd lu mawr goresgynol i'w gwlad hwythau, a mab Indo Hen (un o wŷr y pyst penddu), yn ben arnynt. Bu rhyfel fawr ar lan yr afon Gweryd, yn y Gogledd, ac yn y rhyfel gwyr Arfon a orfuant ac a gaethgludasant lawer o oreuon y wlad. Daethant a hwy i Arfon a godreu mynyddoedd Eryri; ac yr oedd yn eu plith amryw o dywysogion y wlad hono, yn eurdorchogion bob un. Yn eu plith yr oedd un gŵr ieuauc o Sais, yr hwn, oblegyd ei ledneisrwydd a'i hynawsedd, a gafodd ffafr neillduol gan Rhun; ond yn benaf oll cafodd ryddid i ddychwelyd i'w wlad gydag anrhegion lawer.

Yr oedd hefyd yn yr amser hwnw foneddiges gyfoethog, yn byw yn maes Tyno Helyg, yr hon oedd ferch i Helyg ab Gwlanog, a'i henw oedd Gwendud, o arferion hynod o anniwair, ac o ymddygiad balch neillduol. Heblaw hi, yr oedd gan yr Helyg hwn amryw feibion a merched, y rhai a droisant i bregethu ffydd yn Nghrist i'r Cymry paganaidd; o ganlyniad, yn hollol wahanol i Gwendud