Tudalen:Cymru fu.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn eu harferion. Yn y cyfamser, daeth gŵr ieuanc o gymydog ati i ofyn am ei llaw yn wraig briod; dywedodd hithau na roddai ei llaw i neb oni byddai yn eurdorchog, yr hyn oedd prif arwydd tywysog yn yr oesoedd hyny. Ystyrid gwisgo torch o aur o amgylch y gwddf yn anrhydedd uchel, ac mor anhawdd ei chyrhaedd fei y gyrwyd yr ymgeisydd bron i anobaith am gael ei llaw byth. Ond gan mai meddianu torch oedd yr amod, ac nad oedd hyny yn anmhosibl, penderfynodd na orphwysai hyd oni chelai un. Aeth tua Chaer Rhun, gerllaw Bangor, i edrych beth a ddigwyddai. Yno, daeth i wybod am y Sais crybwylledig, a chafodd allan ei fod ar gychwyn i'w wlad yn llwythog o anrhegion lawer. Prysurodd i'r lle yr oedd y gŵr ieuanc, a chynygiodd ei hun iddo yn arweinydd o'r gaer hono i'r gaer nesaf, gerllaw Conwy, a derbyniodd y Sais y cynygiad yn ddiolchgar a llawen.

Ond ei ddyben oedd llofruddio y Sais, a dwyn ei eurdorch oddiarno. Er mwyn ei gael i le digon dirgel, rhag ofn Rhun, denodd ef ar hyd llwybr cul i fynu i'r mynydd, gan ddweyd wrth ei gydymdeithydd diniwaid fod yn rhy beryglus myned ar hyd y gwastadedd coediog, oherwydd fod yno gynifer o fleiddiaid rheibus. Pan oeddynt ar lan yr afon, a elwid fyth ar ol hyny Afon lladd Sais, efe a roddes ei fwriad ysgeler mewn gweithrediad, a llofruddiodd ei gydymaith diamddiffyn. Yna tynodd ei dorch oddiam ei wddf, a gwisgodd hi am ei wddf ei hun, ac aeth gyn gynted ag y gallai i'r Maes at Gwendud, a dywedodd wrthi, "Dyma'r dorch, moes i mi dy law. "Pa le y cefaist hi?" ebai Gwendud. Dywedodd yntau yr holl hanes. "A gleddaist ti y corph?" " Naddo, "ebai yntau." Wel, rhaid i ti fyned yno heno nesaf a'i gladdu o'r golwg; oherwydd os clyw Rhun am hyn, bydd yn sicr o ddial ei waed, ac ni bydd dy lafur ond ofer. "Dychwelodd yntau i'r fan, a dechreuodd dori bedd i'r corph mewn man a elwir hyd heddyw, Braich y Bedd. Tra yr oedd wrth y gorchwyl hwn, dyma waedd fawr, "Gwaedd uwch adwaedd!" yn llefain uwch ei ben, "Daw dial, daw!" nes yr oedd y graig yr ochr arall i'r cwm yn diaspedain "daw!" Bu y llef dair gwaith, a phob llef yn gryfach na'r llall. Dychrynodd yn fawr; ffodd o'r fan, a daeth at Gwendud a'i wyneb yn welw; dywedodd wrthi am yr oll a fu; ac y byddai yn well ganddo gael y dorch yn ol, a pheidio myn'd yn mlaen hefo'r briodas, na dyoddef y farn ofnadwy a fygythid; ac yr elai efe i rhyw fan i ddwyn ei benyd — yr hyn a ystyrid