Tudalen:Cymru fu.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynt yn ddigon o iawn am bob pechod. "0 na, nid felly" ebai Gwendud, "eithr dos yn hytrach a myn ei gladdu; ac os daw y llef eto, gofyn pa bryd y daw y dial." Aeth yntau yr ail waith, a dechreuodd yn brysur ar y bedd, a thynodd y corph llofruddiedig iddo, a phan oedd yn rhoddi y rhawiad olaf arno, dyma'r llef yn llawer uwch na'r tro blaen, "Daw dial, daw!" Gofynodd yntau yn wanaidd, pa bryd. Atebai'r llef, "Yn amser plant, wyrion, a gorwyrion, ac oesgynydd." Aeth yntau yn ddychrynedig ac ar frys mawr at Gwendud, ac hysbysodd hi pa bryd y deuai'r "dial." "O," ebe hithau, "byddwn ni cyn hyny yn bridd ac yn lludw." Felly priodi a fynai hi, gan nad oedd y farn i ddyfod yn erbyn y weithred ddrwg yn fuan. Buont byw yn hir, ac mewn rhialtwch mawr, a gwelsant o'u plant y bedwaredd genhedlaeth. Y pryd hwnw, ebai y naill wrth y llall, "Ai ni fyddai yn well i ni gael gwledd i ni a'n gwehelyth oll ar ein haelwyd ein hunain cyn ein marw?" Felly fu; gwledd a fynwyd, a chasglwyd y genhedlaeth fawr i'r un aelwyd. Cyrchwyd bardd o Fangor Dunawd i'w difyru. Mynwyd y mêdd goreu yn yr holl wlad, a lladdwyd y carw goreu yn y parc, a gwnaed pobpeth yn y dull mwyaf costfawr, fel rhagarweiniad i ymadawiad y rhiaint oedranus, yr hyn a gymerai le wrth gwrs yn fuan mewn heddwch a thawelwch mawr. Ha! na choelia i fawr. Pan oedd pobpeth yn barod, a'r wledd ar ddechreu, ebai'r Bardd wrth y forwyn, "Oni wyddost ti mai heddyw y mae Duw yn dwyn dial ar y lle hwn! "Na wn I," ebai hithau, "am beth?" "O," ebai'r Bardd, "am ryw hen dro a wnaed gan yr hen bobl er's amser maith yn ol;" ac ebai'n mhellach, "pan fyddi yn myned i'r seler i ymofyn mêdd, sylwa'n fanwl os gweli ddwfr yn dyfod i mewn, a hwnw yn llawn o bysgod mân." "Rywbryd tua chanol y wledd, daeth y forwyn at y Bardd yn ddychrynedig, a dywedodd fod y seler yn haner llawn o ddwfr, a hwnw yn llawn o bysgod fel y dywedasai. "Wel, yn awr, ebai'r Bardd," ffown am ein bywyd, mae yn hen bryd." Ac ymaith a hwy. A chyn eu bod neppell oddiwrth y palas, clywent sŵn tòn fawr yn taro yn ei erbyn, a chyda hyny waedd erchyll nes peri i'w gwallt sefyll yn syth. ond nid oedd amser i aros dim, gan fod y môr wrth eu sodlau, ac felly o hyd nes y cyrhaeddasant Rhiwgyfylchi. Yno, ar ol dringo i dir uchel, safasant i ddisgwyl y bore, canys nos oedd hi, a nos pur dywell. Ac erbyn y bore nid oedd dim i'w weled ond môr mawr