Tudalen:Cymru fu.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gorchuddio holl faes Tyno Helyg. Dywed traddodiad fod murddyn y palas i'w weled hyd y dydd hwn. A thyna chwedl TRAETH YR OERLEFAIN.

MARGRED UCH IFAN.

Gan Wmffre Dafydd.

Yr oedd yr hen fenyw hon yn byw yn Llanberis, tua chant a haner o flynyddau yn ol; a meddai nodweddiad hynod ar lawer ystyriaeth. Gallai wneud telyn a'i chwareu yn gampus. Cyfansoddodd naw o dônau, sef "Megan a gollodd ei gardas," "Merch Megan," a saith eraill, y rhai a ystyrid gan hen delynwyr yn dda iawn. Medrai weithio gwaith crydd a theiliwr. Gwnaeth hefyd ddau gwch cryf; a chludai hi a'i morwyn, yr hon oedd o gyfansoddiad cadarn fel hithau, yr holl gopr a godid yn ngwaith mŵn y Wyddfa hyd lynau Llanberis, trwy gytundeb penodol i hyny. Yr oedd yn meddu llais peraidd annghyffredin, ac yn deall nodau peroriaeth yn well na neb yn yr holl wlad. Yr oedd hefyd yn farddones lled wych. ac y mae rhai o'i chaneuon ar gôf a chadw hyd heddyw. Ond ei phrif ddifyrwch oedd mewn cadw cŵn, a'r rhai hyny o'r rhywogaethau goreu, yn filgwn, bytheiadgwn, adaeargwn. Daliai fwy o lwynogod mewn blwyddyn na holl foneddigion y sir gyda'u gilydd. Yr oedd yn gryfach na'r ddau ddyn cryfaf a ddoi i'r un man â hi. Cafodd lawer cynyg am ei llaw mewn glân briodas, a bu am ysbaid mawr yn cadw pawb draw. O'r diwedd dewisodd yn gymhar bywyd y mwyaf llwfr-galon y gwyddai am dano, fel y byddai'r arglwyddiaeth yn ei llaw yn gyfangwbl

Darfu i gi bychan o'r eiddi, o'r enw Ianto, un tro fwyta bwyd un o'r mwngloddwyr; ac yntau yn ei gynddaredd a'i lladdodd yn gelain. Pan glybu Megan am hyn, aeth at y cloddiwr i'w lety. Cafodd ef yn ymolchi oddiallan i'r tŷ, a than wneud hyny yn rhyw ruo canu. "Ai canu sydd yma?" ebai hi. "Ie," ebai yntau (ac atal dweyd arno), "ca-canu clul Ia-Ianto sydd yma. "Wel, efallai y bydd rhywun yn canu dy glul dithau cyn bo hir iawn," ebai Margred. "Nis gwn i pa-prun am hyny," ebai'r