Tudalen:Cymru fu.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cloddiwr. Ac ar ol rhyw gymaint o eiriau chwerwon o bob tu, hi a ymadawodd gan ddweyd y deuai i edrych am dano drachefn wedi iddo ymlanhau a bwyta. Dywedodd y cloddiwr, yr hwn oedd yn ddyn mawr a nerthol iawn, nad oedd arno ef ddim o'i hofn. Pa fodd bynag, yn mhen ychydig, wele Margred yn llanw ei gair, ac yn sefyll fel cawres ger bron llety y llanc. Cynygiodd delerau heddwch; dywedodd y talai hi ar ei bedwerydd am y bwyd a gollwyd; ond iddo yntau dalu am y ci. O, aeth y cloddiwr yn bur goeglyd, gan fygwth gyru'r gawres yr un ffordd a'r ci, os rhoddai ychwaneg o dafod iddo ef, ac ymorchestu llawer iawn yn ei nerth. Ond y diwedd fu, beth bynag, i Margred fyned ato a chydag un ergyd ei osod yn gydwastad â'r llawr; a dywedai dau neu dri o'i gydweithwyr a ddigwyddent sefyll gerllaw, pe rhoddasai un arall cyffelyb iddo, na buasai yn syflid bys na llaw byth.

Cyrhaeddodd Marged Uch Ifan yr oedran teg o 102, a bu farw rywbryd tua'r flwyddyn 1789, heb fod awr yn ei gwely erioed oherwydd afiechyd. Bu ei hoff forwyn farw ychydig o'i blaen, wedi ei gwasanaethu am ddeugain a dwy flynyddau.

DYRIAU: —

Mae gan Margred mwyn uch Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan;
Un i ganu'n nhre Caernarfon,
A'r llall i gadw'r gŵr yn foddlon.


Mae gan Margred mwyn uch Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan;
Un i dynu'r cŵn o'r gongol,
A'r llall i dori esgyrn pobol

MAN-GOFION.

Llyn y Dywarchen. — Rhwng Bettws Garmon â Drws y Coed, yn nghanol gwylltineb yr Eryri, y mae llyn wastadlefn o ddwfr gloywlas a adwaenir wrth yr enw llyn y Dywarchen. Dywed Giraldus Cambrensis fod ar y llyn hwn yn ei amser ef ynys fechan symudol o ffurfiad afreolaidd ac oddeutu naw llath o hyd. Ymddangosai fel darn o dorlan wedi i'r dwfr weithio o tani a'i rhyddhau oddiwrth