Tudalen:Cymru fu.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y tir, ac yn cael ei chadw wrth ei gilydd gan wraidd y llysiau a'r brysg-goed a dyfent arni. Gyrid hi yn ol a blaen gan y gwynt, ac ar brydiau dechreuai ail-ymgydio wrth y lan; ond yn sydyn drachefn y gwynt a droai o gwmpas, ac, yn ol Giraldus, cyn y celai yr anifeiliaid a ddigwyddai bori arni gyfleusdra i fyned ymaith; o ganlyniad ni byddai ganddynt ond ymddiried yn nhrugaredd y gwynt am eu dychweliad i dir.

Squire y Graith. — Yn amser Rhyfeloedd y Rhosynau, yr oedd yr enwog Owen Tudur yn ngharchar yn Nghastell Brynbyga (Usk), yn Ngwent, am iddo bleidio teulu Lancaster. Yna aeth ei gefnder, Ieuan ab Meredydd, gyda mintai o gant o foneddigion Gwynedd, tuag yno gyda'r bwriad o'i ryddhau. Wedi llwyddo yn eu hamcan, a thra yn dychwelyd adref, ymosodwyd arnynt gan fintai luosog o bleidwyr teulu Yorc. Cymerodd gornest galed le rhyngddynt; ac Ieuan ab Meredydd a anerchodd ei gydymdeithion gan eu hadgoffa o ddewrder eu hynafiaid, ac atolygu arnynt ymddwyn yn deilwng o'u cenedl a'u gwlad; a diweddu gan obeithio na chelai oesau i ddyfod ddim dywedyd am y lle y sangent arno, "Dyma'r fan y ffodd cant o foneddigion Gwynedd!" ond dweyd yn hytrach "Dyma'r fan y lladdwyd cant o foneddigion Gwynedd wrth roddi ailfywyd i ddewrder eu cyndadau." Yna, gan fod rhai o'i gyfeillion wedi dyfod a'u meibion gyda hwynt, dododd y rhai hyny o'r tu cefn i'r fintai;" a'i feibion ei hunan ar y blaen, ac yntau a lywyddai y gâd. Llwyr orchfygwyd y gelynion, a'r Gwyneddwyr ni chollasant yr un bywyd; eithr derbyniodd Ieuan archoll ddofn dost yn ei wyneb, a adawodd ei hol arno tra y bu efe byw, ac am hyny y gelwid ef Squire y Graith.

Lleucu Llwyd oedd rian rinweddol, nodedig yn mhlith rhianod digyffelyb Cymru am ei glendid a'i phrydferthwch, yn byw yn Mhennal, ar lan yr afon Dyfi, yn y 14eg ganrif. Cerid hi â chariad pur gan Llywelyn Goch ab Meirig Hen o Nannau, gerllaw Dolgellau. Ond nid oedd ei thad mewn un modd yn foddlon i'r garwriaeth, ac ar bob cyfleusdra cymerai fantais i greu annghariad rhyngddynt. Un tro digwyddodd i Lewelyn Goch fyned ar daith i'r Deheubarth, a daeth ei thad at Lleucu gan ddywedyd wrthi er mwyn diddyfnu ei serch oddiwrth y bardd, fod Llewelyn wedi ymbriodi yno â merch arall. Pan glybu Lleucu hyn, y fath oedd ei gofid fel y syrthiodd