Tudalen:Cymru fu.djvu/263

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwympodd coed y fawnog yn mhellach yn ol na'r hyn y cyfeiria G. Peris ato. — Cynddelw yn y Brython.

Chwedl y Cawri. — Y mae Berwyn hefyd yn hynod am ei Gawri. Mae Pant y Cawr yn agôs i Bistyll Rhaiadr, ond o dan Graig y Ferwyn y trigai y Cawr, meddai y chwedl.

Yr oedd y Gawres, y forwyn, ac yntau, unwaith yn cyrchu beichiau o Graig y Mwn i wneud pont dros "Bant y Cawr," ond cyn iddynt fyned neppell, canodd y ceiliog, â gorfu iddynt ffoi, a gadael "baich y Cawr," "baich y Gawres. " a "ffedogaid y forwyn." yn y man y gwelir hwy hyd y dydd hwn. Y mae Gwallter Mechain, yn Hanes Plwyf Llan, yn son am Rhuddlwm Gawr, a Chawr Myfyr, sef Cawri y Plwyf hwnw; ond ni wyddai, er ei fod agos a gwybod pob peth, yn mha le y trigai Cawr Berwyn. Dangosir ei wely hyd heddyw yn agos i Langan, rhwng Maen Gwynedd a Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd post careg wrth ei obenydd, ac o dan hono, meddent hwy, y cadwai ei drysorau; a bu rhai mor hygoelus, yn fy nghof i, a dymchwelyd y golofn, a cheibio yn ddwfn oddi tani, mewn gobaith am yr hen gist a'r arian. —Yr un.

Yr Ogofau. — Nid wyf yn cofio ond am un chwedl ogofawl mewn cysylltiad â Berwyn; yr oedd hono yn Nghraig y Rhiwarth, ger Llangynog. Nis gwn a oes ogof yn y graig hono, ai nad oes, ond clywais y chwedl fod un yn y cŵr nesaf i Gwm Llanhafan, ac i ddynion ei theithio cyhyd ag y parhaodd pwys o ganwyllau, a bod yno hen wrach yn wastadol yn golchi dillad mewn padell bres!

Ogof ryfedd y cyfrifid "Ogof Tal Clegir," sef Ness Cliff, yn agos i'r Mwythig. I hono yr aeth rhyw Ned Puw dan ganu, ac nis gwelwyd ef mwyach; ond cofiwyd y dôn a ganai, a galwyd hi yn" Ffarwel Ned Puw. " — Yr un.

Cyfenwau Cymreig. — Cyn amser y frenhines Elizabeth. yr oedd cyfenwau y Cymry yn cynwys achau hirion, megys Hywel ab Iorweth ab Ifan, ac felly yn mlaen am saith neu wyth o genhedlaethau. Yr oedd y cyfreithwyr a'r ustusiaid Seisnig a ddeuent i Gymru i weinyddu y gyfraith, yn myned yn gynddeiriog wyllt yn erbyn yr achau hyn, gan na fedrent hwy, drueniiaid anhymig, ddim seinio yr ch a'r ll, na chofio yr enwau pereiddsain oeddynt yn dolenu y gadwen. Dywedir fod rhyw ustus