Tudalen:Cymru fu.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLEWELYN EIN LLYW OLAF.

BYWGRAFFIAD.

Gelwid Llywelyn ab Iorwerth, oherwydd ei ddoethineb fel llywodraethwr a'i fedr fel rhyfelwr, yn Llywelyn Fawr. Ŵyr iddo ef oedd Llywelyn ab Gruffydd, neu, fel y gelwir ef yn gyffredin, "LLEWELYN EIN LLYW OLA'" am mai efe oedd yr olaf yn llinach hir y brenhinoedd a'r tywysogion fuont yn llawio teyrnwialen y Cymry, ac yn amddiffyn eu hiawnderau, yn erbyn rhuthradau parhaus estron- genedl drahaus ac anniwall. Er mwyn iawn ddeall cymeriad a chysylltiadau ein harwr, rhaid ini droi dalen neu ddwy yn ol yn hanes ei deulu. Bu ei daid, Llewelyn ab Iorwerth, yn dywysog ar Wynedd, a'r rhan fwyaf o'r Deheubarth, am y cyfnod hirfaith o chwech a deugain o flynyddau; a'i fywyd yn un bennod fawr o ryfeloedd, - yn wrthrych digasedd a gelyniaeth y Saeson, a brad a chynllwynion rhai eiddigeddus ac annoeth o'i genedl ei hun. Yn ei ieuenctyd, priododd Tangwystl, merch Llywarch Goch, arglwydd cantref y Rhos. Y cantref hwn a gynhwysai yr holl wlad rhwng yr afonydd Conwy, Aled, a'r Clwyd, â'r môr, O'r briodas yna, bu un ferch o'r enw Gwladus, yr hon a briodes Syr Ralph Mortimer; a mab dibris a dewr o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd tad ein harwr. Tangwystl a fu farw yn fuan ar ôl genedigaeth y plant hyn, a Llewelyn ab Iorwerth a ail-briodes gyda Joan, merch. Ioan, brenin Lloegr. O'r briodas hon y deilliodd Dafydd ab Llewelyn, olynydd ei dad yn nhywysogaeth Cymru. Dadblygwyd anian eon Gruffydd pan oedd yn bur ieuanc; ac fel y gallai arfer ei hun i ddyledswyddau milwr a thywysog, ei dad a'i gosodes yn rhaglaw ar gantref Ardudwy, ym Meirionydd; ac oddiwrth y ffaith hon gellid casglu mai Gruffydd oedd anwylyn ei dad yr amser hwn, a'i olynydd bwriadedig i'r orsedd, eithr trwy ei ymddygiad anffodus canlynol, efe a gollodd ffafr ei riant, ac aberthodd ei fraint