Tudalen:Cymru fu.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel olynydd iddo. Ymdorodd ei yspryd anniwall allan mewn gwrthryfel agored, gan hawlio y cantref yn eiddo iddo ei hun, yn hollol annibynnol ar un awdurdod uwch. Gorchymynnodd ei dad iddo ddyfod ger ei fron ef, a rhoddi cyfrif o'i oruchwyliaeth, ond ni chydsyniodd Gruffydd. Yna Llewelyn a arweiniodd fyddin gref i fyned yn erbyn ei fab anufudd; a Gruffydd, yntau a gasglodd wŷr ar fedr anturio brwydr; ond yn ffodus, cymodwyd y ddau tra yr oedd y pleidiau rhyfelgar yng ngŵydd eu gilydd, ac ar fin ymladd. Y mae pob lle i gredu mai ffug oedd yr adgymodiad hwn, o du y tad; nid anghofiodd efe byth amryfusedd Gruffydd, a chymerodd oddiarno bob hawl i gantref Ardudwy. Pa fodd bynnag, cafodd drachefn lywyddiaeth adran o'r fyddin Gymreig, yn mha sefyllfa yr hynododd efe ei hun fel dyn galluog a dewr, hyd oni ddygodd ei yspryd gwrthnysig ef eilwaith dan wg ei dad, a bu yn ngharchar o'r herwydd am chwe' blynedd. Pan ryddhawyd ef, yr oedd yn amlwg i bawb fod Dafydd, ei frawd, wedi ennill oddiarno ei enedigaeth-fraint.

Gruffydd a briododd Sina, merch Caradog ab Thomas, gor-wyres i'r enwog Owen Gwynedd; ac y mae hanesyddiaeth yn cyfeirio at bedwar o'u plant, sef, Owen, Llywelyn, Dafydd, a Roderick. Treftadaeth Gruffydd oeddynt y pedwar cantref, Rhos, Rhufoniog, Tegengl, a Dyffryn Clwyd; ac yn ystod carchariad ei dad, a'i frawd Owen, Llewelyn oedd prif feddiannydd y cantrefi hyn.

Llewelyn ab Iorwerth pan heneiddiodd, a barodd i'w benaethiaid, a'i arglwyddi, ei gyfarfod ef yn Ystrad Fflur; ac yno talu eu gwarogaeth iddo ef, a'i fab Dafydd, fel ei olynydd yn y Dywysogaeth. Boddlonai yr olyniaeth hon y brenin Harri III yn awr, a'r blaid. Seisnig-Gymreig, neu y Dic Siôn Dafyddion, canys yr oeddynt hwy yn cancro eu cenedl yn mhell cyn i Glanygors eu bedyddio â'r enw, na thuchanu eu mursendod; tra yr oedd plaid gref arall yn cydymdeimlo â'r anffodus Gruffydd, yn edmygu ei berson hardd, ac yn galaru ei gyflwr diraddiol, a phan ddaeth angau yn mlaen i ddiosg Llewelyn oddiwrth ei swyddaua a'i ofalon daearol, bu cryn gynhwrf yn y wlad, a bron n thorrodd allan yn oddaeth o wrthryfel o blaid Gruffydd' Nid ystyrid Dafydd ond hanner Sais, ac yr oedd y drychfeddwl o hanner estronddyn yn eistedd yn nghadair Cadwaladr Fendigaid, bron lladd pob Cymro twymgalon a gwladgarol. Credai pawb mai offeryn fyddai yn llaw y teyrn Seisnig i boeni y Cymry, a diffodd y wreichionen olaf o dân cysegredig rhyddid a gyneuai yn eu mynwesau.