Tudalen:Cymru fu.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa un ai Llewelyn cyn marw dododd Gruffydd yn ngharchar er mwyn sicrhau yr olyniaeth i Dafydd, ynte Dafydd ei hun ar ei esgyniad i'w swydd, nis gwyddis; modd bynag, yn ngharchar tan grafangau ei frawd yr oedd Gruffydd, ac Owen ei fab hynaf gydag ef, - sefyllfa druenus i'r eithaf i dywysog ieuanc dewr, o deimladau rhyddidgarol fel yr eiddo ef, - ac yn garcharor hefyd tan law brawd! ran hynny, gelyniaeth frodyr oedd yr elyniaeth greulonaf yn mhlith yr hen dywysogion Cymreig; hon oedd wrth wraidd eu holl ymladdau ynfyd yn eu plith eu hunain; hon, fel ellylles hagr ei gwedd, a yfodd waed goreu ein cyndadau; ac fel y dangosir cyn diwedd ein herthygl, hon a fu y prif achlysur yn y diwedd i'r genedl golli ei hannibyniaeth.

Er bod Gruffydd yn ngharchar, cynyddu yr oedd ei blaid yn y wlad, ac yn ei phlith lawer o ŵyr mawr, yn eglwysig a gwladol. Esgob Bangor, a Syr Ralph Mortimer - brawd- yn-nghyfraith Gruffydd, a ymdrechasant trwy resymau cedyrn ddarbwyllo y tywysog i ryddhau ei frawd, ond yn ofer. Yna yr Esgob a ysgymunodd Dafydd; a brysurodd i Lundain er gosod yr achos o flaen y brenin. Digwyddai fod ymrafael ar y pryd rhwng y brenin a'r tywysog Cymreig. Disgwylid y buasai hyn yn fanteisiol i'r ymdrafodaeth, gan i'r brenin ddyfod i lawr i'r Amwythig, ar fedr cospi ei nai ystyfnig; ac yno iddo dynnu cytundeb gyda Sina, priod Gruffydd ac amryw foneddigion, yn cynnwys os talai Gruffudd warogaeth gyflawn iddo ef, y rhyddheid ef o garchar, ac yr adferid ef i'w dreftadaeth,

Eithr nid oedd hyn oll ond malais Harri, er mwyn ychwanegu'r anghydfod rhwng y ddwy blaid Gymreig, a rhoddi cyfleusdra iddo ddwyn ei amcanion trawsfeddianol oddi amgylch. Yn lle cosbi Dafydd ailgymododd ag ef; ac yn lle rhyddhau Gruffydd, ar ddymuniad y tywysog, cymerodd ef a'i fab Owen gydag ef i Lundain, gan eu carcharu yn y Tŵr. Fel yna y byddai brenhinoedd Lloegr yn cyflawni cytundebau; ac yr oedd bai ar y Cymry os dychwelent hwythau yr echwyn adref? Peth fel dilledyn oedd cyf- iawnder yn nhyb Harri, - i'w roi a'i ddiosg fel y byddai amgylchiadau'n galw; a chadwyd Gruffydd yn ngharchar am ddwy flynedd yn mhellach. Y mae'r meddwl yn clafeiddio wrth fyfyrio ar gyflwr y bonheddwr ieuanc hwn, yn dihoeni ei ddyddiau goreu rhwng muriau carchardy, yn alltud oddiwrth ei gyfiawn hawliau fel tywysog ei anwyl wlad, - adgofion am yr hon a surent ei fyfyrdodau y dydd, ac a lonnent ei freuddwydion y nos; - fel eryr mewn cawell,