Tudalen:Cymru fu.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi trethu ei holl gyneddfau i ddyfeisio gwaredigaeth, a sugna ei waed ei hun gan ddewis angau yn hytrach na chaethiwed. Ac fe ddaeth yr ymwared prudd. Un noson, efe a rwymodd ddillad ei wely wrth eu gilydd, a dechreuodd ddisgyn wrthynt o'i garchar-ystafell uchel: ond gan ei fod yn ddyn trwm a chorphorol, torrodd ei raff, a syrthiodd yntau ddegau o lathenni i ffos islaw, lle y cafwyd ef yn y bore yn hollol farw, a'i ben wedi ei wthio bron i'w gorph. A dyna ddiwedd tad ein harwr.

Gallesid disgwyl y buasai'r ddamwain alarus hon yn meddalu hyd yn nod galon Harri III., ac yn ei dueddu i ollwng yn rhydd Owen, mab y trengedig; ond, nid felly, y brenin a barodd roddi gwyliadwriaeth ddyfalach arno, rhag y llwyddasai ef yn yr hyn y bu ei dad mor aflwyddiannus. Gallesid hefyd ddisgwyl y buasai Dafydd yn ddedwydd wedi cael ymwared o'i wrth-ymgeisydd. Eithr gwrthbrofir hyn gan ffeithiau tanllyd gweddill ei oes. Mewn ymrafaelion parhaus gyda'r Saeson, mewn anghariad rhan luosog o'i genedl ei hun, a gwaed ei frawd yn llefain yn nghlust ei gydwybod, y treuliodd Dafydd ab Llewelyn relyw ei fywyd. Ac yn mhen dwy flynedd ymollyngodd ei gyfansoddiad tan bwys ei drallodion, a hyrddiwyd ef, ar ôl ei frawd, gan y ddarfodedigaeth tros drothwy amser. Bu farw yn ddiblant yn ei balas gerllaw Aber, sir Gaerynarfon, a chladdwyd ef yn mynachlog Conwy.

1246.

Yna bu penbleth am olynydd iddo. Yn ol deddf olyniaeth disgynnai’r Dywysogaeth i feddiant Syr Ralph Mortimer, yr hwn a briodasai Gwladus merch Llewelyn ab Iorwerth. Ond y Cymry ni fynnent fod tan ei awdurdod ef, gan ei fod yn hanu o estron genedl; a'i deimladau a'i ragfarnau, wrth gwrs natur, yn Seisnig. O ganlyniad, yn lled ddibetrus, dodwyd ei hawliau ef o'r neilldu, a phenodwyd ar Owen a Llewelyn, meibion hynaf yr anffodus Gruffudd. Ymddengys i galon y brenin ymdoddi o'r diwedd tuag at Owen, ac iddo ei dderbyn fel anwylddyn i'w lys, lle y bu am yspaid mewn parch a ffafr uchel gan bawb; ond pan glybu am y digwyddiadau diweddar yn Nghymru, ymneillduodd o Loegr, a chyrhaeddodd adref yn ddyogel. Llewelyn, cyn ei ddyrchafiad. A drigfanai yn Maesmynan, sir Fflint, ar ei etifeddiaeth dreftadol, yn cynnwys cantrefi Tegengl, Dyffryn Clwyd, Rhos, a Rhufoniog ,