Tudalen:Cymru fu.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr holl wlad rhwng Conwy a'r Dyfrdwy, yr hon feddiant a ddaliasai, er gwaethaf y diweddar dywysog ar y naill law a brenin Lloegr ar y llall, fel y dyn rhwng y llewpart â'r morflaidd tra y cnoent hwy eu gilydd, yntau a gai lonyddwch.

1247.

Pan gymerth y tywysogion ieuainc awenau y llywodraeth mewn llaw, yr oedd y genedl mewn cyflwr truenus i'r eithaf,- yn gruddfan tan gyfreithiau gorthrymus eu gelynion, heb aidd nac yspryd i fasnachu nac amaethu; wedi eu hyspeilio o borfeydd eu hanifeiliaid, ac yn grwydriaid adfydus hyd y moelydd diffaith, tra yr oedd difrod yn gorwedd ar eu dyffrynau maethlawn, a gorthrwm yn mathru eu tywysogaeth hardd a'u hannibyniaeth hen. Yr oedd llaw trallod mor drwm ar fawrion ag ar dlodion y tir - ar y gwŷr llên fel y gwŷr lleyg. Dywed Mathew Paris fod Esgob Tŷ Ddewi wedi tori ei galon; ac Esgob Llandaf wedi galaru ei hunan yn ddall; tra yr oedd Esgobion Bangor a Llanelwy, o herwydd tlodi y wlad, yn gorfod cardota eu lluniaeth o fannau eraill.

Ar farwolaeth Dafydd yr oedd y ddwy wlad mewn rhyfel a'u gilydd, a'r Saeson yn fuddugol bron yn mhob man; felly un o weithredoedd cyntaf y tywysogion ieuainc oedd ceisio heddwch costied a gostio, a chawsant ef o'r diwedd gyda'r telerau celyd canlynol: - Colli eu hawl am byth i'w pedwar cantref treftadol, sef Rhos, Tegengl, Dyffryn Clwyd, a Rhufoniog; cadw mil o wyr traed. A phedwar-ar- hugain o wyr meirch, wedi eu dilladu a'u harfogi i fod yn barod ar bob achlysur i wasanaethu y brenin, yn Nghymru neu ar eu cyffiniau; yr oedd yr holl farwniaid i dalu eu gwarogaeth i frenin Lloegr, ac nid i'r tywysogion Cymreig, fel cynt; os byddai iddynt dori yr amodau hyn, atafaelid eu meddiannau, a chollent bob enw o hawl ar y dywysogaeth Gogledd Cymru. Wedi iddynt arwyddo y cytundeb hwn, caniatawyd iddynt faddeuant a hawl i'w tywysogaeth, eithr yr oeddynt i'w dal trwy ffafr brenin Lloegr am byth.

1251

Y brenin a roddodd y cantrefi uchod i ŵr o'r enw Allan de Zouch, i'w trin ar hyd breichiau, am y swm o 1.100 o farciau; gan adael iddo wneud y geiniog uchaf ohonynt trwy eu hail osod; a phrofodd Allan ei hun yn feistr caled i'w denantiaid Cymreig - yn eu hardrethu'n uchel, ac yn