Tudalen:Cymru fu.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

disgwyl medi lle nis hauasai. Yn ychwanegol at hyn, y brenin a drethodd y pedwar cantref yn drwm, er mwyn ei alluogi ef i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yr oedd eu cyd genedl yn y rhannau eraill o'r wlad yn gweled eu cystudd, eithr nis gallent estyn ymwared iddynt gan mor luddiedig eu nerth, a dirywiedig eu hyspryd.

1254.

Ond tra yr oeddynt fel hyn yn nyfnderau anobaith, wele ddial ymryson brodyr yn dyfod yn mlaen gan gythryblu eu teimladau, a'u deffro o'u hunlle annaturiol. Nis gallai Owen, y tywysog hynaf, oddef rhannu y swydd o dywysog gyda Llewelyn, ac wedi iddo lwyddo i hudo Dafydd ei frawd i'r un bwriad ag ef, y ddau a arweiniasant fyddin gref i'r maes yn erbyn eu brawd. Brwydr faith a gwaedlyd fu y frwydr annaturiol hon, ond y gwrthryfelwyr a lwyr orchfygwyd, a'u dau bennaeth a ddaliwyd ac a garcharwyd am yspaid hirfaith yn Nghastell Padarn, wrth droed y Wyddfa; a thrwy hyn, Llewelyn a adawyd yn unig feddiannydd gweddillion yr hen deyrnas Frutanaidd.

Yn awr yr oedd cleddyf y Cymry o'i wain, a'u teimladau rhyfelgar wedi dadebru; a phenderfynasant daro'r gormesydd, ac ymegnio unwaith yn rhagor i dynnu eu hunain o grafangau yr estron. Pan welsant eu perygl, y gwelsant hefyd ddaioni undeb a brawdgarwch. Agorasant eu llygaid ar y gamdriniaeth a dderbynient oddiar law y tywysog Iorwerth, mab y brenin, yr hwn a drigiannai yn Nghaerlleon ar y pryd, ac a wasanaethai fel ystiwart y brenin yn Nghymru, ac fel pennaeth arglwyddi rheibus y Cyffiniau. Gwelent fod eu tiroedd yn cael eu trawsfeddiannu oddiarnynt trwy anghyfiawnder am y troseddau lleiaf; a phan gwynent o'i herwydd, ni chaent gan y llys Seisnig ond gwatwared. Cyd-osodasant eu cwynion ger bron Llewelyn, gan ddeisyf arno gymeryd eu hachos mewn llaw, a thyngu wrtho mai gwell ganddynt farw ar y maes na dwyn eu penyd yn mhellach. Fel y gallesid disgwyl, derbyniodd y tywysog eu cynygion yn ddibetrus; ac mewn dull cysegredig tynghedodd ef a hwythau i'w gilydd y buasent yn gwaredu eu gwlad neu yn trengu yn yr ymgais.

Y mae yn anhawdd darnodi tywysogaeth Cymru yn y cyfnod hwn, ond y mae pob lle i gasglu nad ydoedd nemawr mwy na siroedd presennol Môn ac Arfon; gau fod Trefaldwyn, a rhan isaf sir Ddinbych a Fflint, yn nwylaw arglwyddi gelynol i Llywelyn, a chynhwysai y pedwar cantref tan Allan de Zouch y gweddill o'r siroedd olaf; yr