Tudalen:Cymru fu.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y brenin -wedi gwthio ei diriogaeth hyd yn nod mor bell a sir Feirionydd, canys un o weithredoedd cyntaf Llewelyn i roddi ysgogiad yn y penderfyniad uchod oedd adgymeryd y sir honno. Ond y mae'n ddiamheu fod yn y cynghrair luaws o arglwyddi dylanwadol o barthau eraill Cymru.

Ar ol sicrhau Meirionydd a chanolbarth Gwynedd, ymdeithiodd i Geredigion, gan ddarostwng yno feddiannau y tywysog Iorwerth, a chantref hefyd yn sir Faesyfed, o'r enw Gwrthrynion.

1256.

Yn haf y flwyddyn hon, efe a wnaeth ymgyrch ar Powys, y rhan o'r wlad a berthynai i Gruffydd ab Gwenwynwyn, er dial ar y gŵr hwnnw ei amryfusedd yn ymuno â'r Saeson. Cymerodd ei feddiannau bron heb wrthwynebiad; a rhoddodd hwynt i'w swyddogion milwrol. Dangosai hyn ei ddigybydd-dod; ac enynnai serch yn y cyfryw swyddogion tuag ato. Pan glybu y brenin am ei rwysg annisgwyliadwy, efe a anfonodd fyddin fawr gyda'r môr i Ddeheudir Cymru, i gynorthwyo ei ffyddloniaid oeddynt yno eisoes. Y fyddin frenhinol a warchaeodd gastell Dinefwr; eithr Llewelyn a ymosododd arni, ac a'i gorchfygodd, gau ladd 2,000 o'i nifer. Yna efe a ddiffeithiodd sir Benfro, gan chwalu castelli Abercorran, Llanstephan, Maenclochog, ac Arberth; a dychwelodd gydag yspail lawer i'r Gogledd. Cynyrfodd y llwyddiant hwn holl gynddaredd y tywysog Iorwerth, ac arfaethai yntau gyfarfod Llewelyn ar ei ffordd adref, a gwneud hafog erchyll yn ei fyddin. Ond er fod gan Iorwerth yspryd uchel, isel iawn oedd ei bwrs ar y pryd; ac yr oedd ei dad yn anfoddlon, ac yn wir yn alluog, i'w helpio. Yn ngwyneb y pethau hyn, efe a apeliodd at Iarll Cernyw, ei ewythr, am fenthyg arian, yr hwn a fenthyciodd iddo 40,000 o forciau. Ond erbyn cael yr arian, yr oedd y gaeaf ar ei warthaf - y glawogydd wedi disgyn; yr afonydd wedi chwyddo tros eu glannau, gan orchuddio y morfeydd, a gwenu'n drahaus ar ei yspryd balch a'i arian echwyn. Ychydig o rwyddineb gafodd yntau gyda chosbi y dewrion.

Erbyn hyn, yr oedd yspryd gwladgar a dialgar wedi disgyn yn helaeth ar Gymry y Deheudir cystal a'r Gwyneddwyr; a'r naill ormes ar ol y llall yn cenhedlu dygasedd yn eu calonnau tuag at eu gorthrymwyr - gormes a fuasai yn cynhyrchu gwroldeb yn mynwesau llyfriaid wrth natur. Yr oedd pob cwmwd a phentref yn afon gwyr i