Tudalen:Cymru fu.djvu/272

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynorthwyo yn y gwaith, cysegredig yn eu tyb hwy, o ysgubo'r wlad yn lân oddiwrth eillion ysgymun. Chwyddodd byddin Llewelyn i faintioli dirfawr; yn ol Warrington i'r rhif anhygoel o 60,00, a 1,000 o wyr meirch; nes y daeth porthiant y fath lu mawr, mewn gwlad fynyddig fel Cymru, a than ddiffyg cludiaeth yr oes hono, yn bwnc pwysig i'w Chadlywydd. Er goddiweddyd y rhwystrau hyn, efe a rannodd ei fyddin yn ddwy adran, ac a ymdeithiodd gyda hwynt i'r Cyffiniau, gan anrheithio o boptu’r Dyfrdwy hyd i byrth Caerlleon; ac Iorwerth, y tywysog Seisnig, yn ymgilio o'i flaen fel cangen grin o flaen y llifeiriant; er fod Gruffydd ab Madog, o Ddinas Bran, arglwydd Powys Fadog, wedi bradychu ei genedl, ac mewn undeb âg ef. Yna'r tywysog Cymreig a drodd ei wyneb eilwaith tua'r Deheudir, ac yno wedi meistroli amrai gantrefi, a meddiannu dau gastell, dychwelodd i Wynedd. Ar ei ddychweliad, amcanodd Iorwerth ei luddias; eithr gorfu arno wedyn encilio mewn ffrwst a chywilydd; a chafodd Llewelyn gyfleusdra i gosbi y bradwr Gruffydd ab Madog, trwy anrheithio ei feddiannau.

1257.

Yn nechreu'r flwyddyn hon, ymosododd ar Gastell Dyganwy, ar fin yr afon Conwy, yr hon oedd y safle gadarnaf a feddai'r Saeson yn Nghymru; ac ar ennilliad pa un y gwyddai'r tywysog Cymreig yn dda yr oedd tynged rhyddid ei wlad yn troi. Nid ymddengys i'r ymosodiad hwn fod yn llwyddiannus; ond, i'r gwrthwyneb, bu yn foddion i ddeffro y brenin Harri o'i syrthni, yn nghylch symudiadau y Cymry - iddo alw at ei wasanaeth ei holl adgyfnerthion rhyfelgar, yn wyr o bob cẁr i'r deyrnas, ac yntau ei hun yn gadlywydd arnynt; ac yn Wyddelod mewn llongau, i ymosod yn y cyfamser ar Ynys Môn a'r parthau mordirol. Yr oedd y brenin a'i lu i gychwyn o Gaerlleon ar yr 11eg o Awst; a byddin arall, tan lywyddiaeth Iarll Caerloyw, i gychwyn o Bristol am y Deheudir, yr un diwrnod; fel y byddai gan y Cymry dri man i'w wylio, ac y sicrheid eu darostyngiad, sef y brenin o Gaer, Iarll Caerloyw o'r Deheudir, a'r Gwyddelod o Fôn.

Er mor gyfrwysgall y cynllun, diweddodd yn hynod o anffodus. Pan ddeallodd Llewelyn am y gad lynges Wyddelig, danfonodd nifer o longau i'w chyfarfod, a gorfu ar hono ddychwelyd yn frysiog a drylliog i'r Ynys Werdd. Trwy ryw gamddealltwriaeth, ni chychwynnodd Iarll Caerloyw i'w ymgyrch o gwbl. Ac nid esgeulusodd y