Tudalen:Cymru fu.djvu/273

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywysog ychwaith ddarpar ar gyfer y brenin. Cyn dyfodiad Harri, Llewelyn a barodd ddinystrio y melinau, a dryllio y pontydd, a chodi y gwarchae ar Dyganwy; yna, gan yrru yr anifeiliaid o'i flaen tros y Gonwy, ymgiliodd i Eryri. Gwthiodd y brenin mor bell â'r afon hono, a chafodd y wlad yn ddiffaethwch noethlwm; a chyn pen ychydig wythnosau, o herwydd fod ei wyr yn marw o newyn, ac yn disgyn yn ysglyfaeth i ruthriadau ffyrnig a sydyn y Cymry, gorfu arno ymgilio yn ol i'w wlad mewn gwarth a chywilydd,

Effeithiodd caledi a gwarth y cadgyrchiad hwn gymaint ar gyfansoddiad y brenin, nes ei dallu i dwymyn poeth, yn mha un y parhaodd am hir amser; ac i'w fab Iorwerth benderfynu ymwrthod a'i feddianau yn Nghymru am byth, a rhoddi ei ddeiliaid i fynnu fel pobl anorchfygadwy. Canlyniad arall i'r aflwydd Seisnig uchod: Gruffydd ab Madog, gŵr dewr a chall, ond lled brin yn y nwyddau gwerthfawr o egwyddor a chydwybod, yn gweled nad oedd y brenin yn abl i'w amddiffyn ef a'i feddianau rhag ei elynion, a droes yn ei garn, gan ddarostwng i Llewelyn, tyngu llw o ffyddlondeb iddo, a chyflwyno ei holl alluoedd rhyfelgar at ei wasanaeth.

Nid oedd yn naturiol y buasai'r fath lu buddugoliaethus yn aros yn segur; o ganlyniad, aethant i'r Deheudir drachefn. Yno, Llewelyn, a gafodd warogaeth holl arglwyddi y wlad hono; ac wedyn ymosododd yn ddi-oed ar y Cyffiniau. Daeth ar draws byddin Seisnig, yr hon a enciliodd o'i flaen tua Chastell (enw yr hwn ni roddir, ond tybir ei fod o fewn cyfoeth Iarll Caerloyw,) ar fedr amddiffyn ei hun rhag ei herlynwyr mewn man cul a chorslyd. Ond y Cymry a ddanfonasant nifer o wyr i dori cyfarfod a hwynt; a'r encilwyr a gawsant eu hunain mewn magl, gan gyfarfod gelynion lle y disgwylient gyfeillion. "Ac yno," medd Mathew Paris," megys rhwng dau faen melin, hwy a orthrechwyd, ac a lwyr ddrylliwyd, ac a laddwyd â galanasdra mawr. Yn y frwydr hon, syrthiodd nifer dirfawr o'r Saeson, ac yn eu plith luaws o bendefigion. "

Yr oedd Ffawd erbyn hyn yn gwenu ar y Cymry yn mhob man. Yr oeddynt yn nerthol am eu bod yn unol, ac yn unol am eu bod yn nerthol. Ac er mwyn plannu yn ei fyddin dduwiolfrydedd â chysegredigrwydd ei hachos, Llewelyn a'u hanerchodd yn y geiriau enaid-gynhyrfiol a ganlyn: - "Hyd yn hyn Arglwydd Dduw'r lluoedd a'u cynorthwyodd; canys amlwg yw i bawb nas