Tudalen:Cymru fu.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gellir priodoli ein llwyddiant i'n dewrder ein hunain, ond i ffafr Duw; yr hwn a all arbed gydag ychydig cystal â chyda lluaws. Canys pa fodd y gallasem ni, bobl dlodion, weiniaid, ac anymladdgar, wrth ein cydmaru â'r Saeson, feiddio gwrthsefyll y fath gadarn allu, oni buasai nawdd Duw ar ein hachos? Canfu ei lygaid Ef ein trallod, a pha fodd y poenydid ni gan Geoffrey de Langley, ac offerynnau creulawn eraill o eiddo y brenin, a Iorwerth ef fab. Hwy a'n bradychasant yn ein diniweidrwydd. O hyn allan, gan hynny, y mae pob peth a feddwn yn y fantol. Nis syrthiwn i ddwylaw ein gelynion, nid oes trugaredd i'w ddisgwyl. Byddwn bur i'n gilydd. Yn unol, yr ydym yn anorchfygadwy. Chwi a welwch pa fodd yr ymddyga'r brenin at ei ddeiliaid ei hun - fel y mae'n ysglyfio'u meddianau, yn tlodi eu teuluoedd, ac yn chwerwi eu teimladau. A erbyd efe, gan hyny, nyni! wedi inni ei cynddeiriogi gymaint eisoes, a phan ddarffo inni ddwyn i ben ein bwriadau rhyfelgar presennol! Na wna; ei amcan fydd ein dileu oddiar lechres bodolaeth. O ganlyniad, onid gwell inni farw yn y frwydr, a myned at Dduw, na byw ar drugaredd ansefydlog gelyn; ac yn y diwedd, hwyrach, drengu yn waradwyddus trwy ddwylaw ysgymun y dihenyddwr?"

Dengys yr araeth uchod dueddfryd grefyddol y Cymry yn yr oes hono, onide ni buasai Llewelyn yn eu hanerch yn y cyfrwng pwysig hwnw â geiriau diflas ganddynt. Gwyddai yn dda pa rai oedd eu teimladau cryfaf, ac apeliai at y cyfryw. A'r geiriau hyn yn merwino eu clustiau, marweiddiai ofn yn eu mynwesau, a phob rhwystr a ddiflannai oddi ger eu bron megys mwg. Llwyr ddarostyngasant sir Benfro; a daethant o hyd i halen - nwydd gwerthfawr yr oeddynt wedi dyoddef llawer o'i eisiau er y pryd y dinystriasai Harri eu gweithydd yn sir Gaerlleon.

1258.

Ond tra yr oedd y Cymry yn ymlawenhau yn eu llwyddiant, Harri a adferwyd o'i dwymyn, ac enynnwyd ei lid wrth ganfod rhwysg ei elynion. Daeth mor bell â Chaer, a'r cynhauaf oedd hi; eithr ni lwyddodd mewn dim ond mewn llosgi'r cnydau.

Ac yn awr, daw llinell gwerthfawr yn nghymeriad Llewelyn i'r golwg. Er ei fod yn gadarnach nag erioed, er fod pendefigion ei wlad tan lw o ffyddlondeb iddo, a'r werin bobl yn ei ddarn addoli; a llawer baner buddugoliaeth yspail rhyfel yn ei feddiant; eto, er hyn oll, cawn ef yn