Tudalen:Cymru fu.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynyg telerau heddwch i'r brenin Seisnig:. Oddiar serch at ei wyr, y rhai oeddynt wedi gorphen eu gwaith pwrpasol o adfeddiannu rhyddid eu gwlad; ac oddiar ei gallineb, yn hyderu y gallai gael telerau anrhydeddusach iddo ei hun a'i wlad, o herwydd ei gryfder presenol, mae'n ddiau y cynygiodd efe yr heddwch hwn. Pa fodd bynag, nacaodd y brenin; ac nid oedd gan Llewelyn ond gwneud y goreu o'r gwaethaf - rhyfel.

Rhyfel ar y Cyffiniau yn chwilfriwio cestyll yr arglwyddi Normanaidd, yn diffaethio eu meddianau ac yn lladd pob Sais fel pe buasai bryf dystrywgar a diles. Yn mhlith arglwyddi y Cyffiniau y pryd hwnw yr oedd pendefig newydd ddyfod o Germani, o'r enw Jacobus de Ændelia [Audley, medd Powell, merch yr hwn a briododd Gruffydd Maelawr]: gŵr cyfoethog a chadarn ydoedd, a daeth yntau i mewn am ran o ddialedd y Cymry. Yntau a ddanfonodd i'w wlad, ac a gafodd lu mawr o wyr arfog y rhai a ryfelent ar feirch gorchuddiedig â dur. Y rhyfelwyr hyn a ymosodent ar y Cymry, y rhai nid oeddynt yn adnabod y dull newydd hwn o elynion, a buan y gorfodid hwy i encilio. Pa fodd bynag, y Cymry a gynllwynasant eu galanas. Aethant eilwaith i gyfoeth Audley, a daeth y marchogion allan fel o'r blaen i'w cosbi; a'r Cymry a ffugiasant ddianc gan hudo eu hymlidwyr i fan cyfyng, corslyd, ac anghysbell. Yno troisant arnynt a thrywanu eu ceffylau, a gwneud y marchogion yn ddim amgen na gwyr traed, a thrwy hyny hawdd fu eu gorddiwes. Pan nad oedd ond gŵr yn erbyn gŵr, llwyr orthrechwyd y Germaniaid, a chollasant nifer mawr o wyr.

Fel hyn, yr oedd y naill ddigwyddiad ar ol y llall yn pwyso ar wynt y brenin; a thueddwyd ef o'r diwedd i wneud cadoediad am un flwyddyn gyda'r Cymry. Neillduodd ar farchog o'r enw Padrig de Canton i gyfarfod dirprwywyr Cymreig yn nhref Caerfyrddin, er mwyn llawnodi a selio y cytundeb hwn. Dafydd, brawd Llewelyn, yr hwn a ryddhesid yn ddiweddar o garchar, a gynrychiolai ei frawd yn y llawnodiad. Deallodd y dirprwywyr Seisnig fod gosgorddlu Dafydd yn wannach na'r eiddynt hwy. O ganlyniad, Padrig a'i wyr a lechasant yn fradwrus ar fin ffordd y Cymry, ac a ruthasant yn sydyn arnynt gan ladd lawer o honynt cyn y gallent drefnu eu hunain i frwydr. Ond cafwyd trefn cyn hir, a'r bradwyr oll bron a gyfarfuant a'u gwobr gyfiawn, ac yn mhlith y cwympiedig yr oedd .Padrig ei hun. Dengys y ffaith hon y fath bobl iselwael, diymddiried, ac annynol oedd gan ein cyndadau i