Tudalen:Cymru fu.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwneud â hwynt; ac nid rhyfedd fod holl adnoddau dialeddol eu heneidiau yn berwi allan yn eu herbyn. Ac i goroni yr holl anferthwch, Harri yn lle cosbi gweddillion y dialedd hwn, o herwydd iddynt lychwino ei gymeriad ef fel brenin, a ffromodd yn aruthr wrth Llewelyn, am i'w wyr ef feiddio amddiffyn eu bywydau eu hunain. a chosbi cynllwynion dyhirod.

1260 a '61.

Yna, digwyddodd mân frwydrau, yn mha rai yr oedd y Cymry bron yn ddieithriaid yn fuddugol; a chyn pen ychydig fisoedd, gymaint oedd doethineb calon Llewelyn, fel yr ail gynygiodd delerau heddwch; y rhai a wrthodwyd gan y brenin. Yr oedd y barwn Normanaidd, a chefnder Llewelyn, Syr Roger Mortimer, mewn lle poeth rhwng tân y Cymry a'r Saeson. Ammheuid ei gywirdeb weithiau gan yr olaf, a gorfodid ef i dalu gawrogaeth wasaidd i'r brenin; bryd arall, byddai Llewelyn yn ei gosbi am ryw anffyddlondeb i'w achos yntau. Yr oedd Mortimer wedi digio Llewelyn; ac yntau a arweiniodd fyddin gref yn erbyn un o'i gastellau, ac wedi dinystrio y lle, ymgiliodd ychydig o'r neilldu. Yn y cyfamser, daeth Mortimer gyda byddin o wyr a gasglasai gan ei gymydogion barwnol; ac fel gwir arwr gosododd ei hun yn yr adfail castell digysgod hwn. Dychwelodd Llewelyn yn fuan at y murddyn, a darparodd at y dasg rwydd o orchfygu a dal ei gefnder diamddiffyn. Eithr pan ganfu Mortimer yr ynfydrwydd o ddal ymosodiad yn y fath le, gyda gradd helaeth o hunan hyder danfonodd at y tywysog am ganiatâd i ymadael. Yr ydym yn gweled y wên gellweirus a chwareuai ar wynebpryd ein harwr wrth foneddigaidd ganiatáu y fath ddymuniad gwynebgaled. Nid oedd ei galon dyner ef yn gweddu i'r oes galon haerllug hono. Yr oedd yn rhy dda i'w genhedlaeth. Nid gŵr rhyfel ydoedd; er iddo ar draws ei anian gyflawni gwrhydri ar faes y gwaed fuasai'n anrhydedd i gymeriadau Alexander a Bonaparte. Mewn oes dawel a heddychol y cawsem weled gwir deithi ei enaid yn y golwg; ni ryfeddasem ei weled yn urddasoli cystadleuon amaethyddol â'i bresenoldeb; neu yn llywydd mewn Eisteddfod, neu un o gyfarfodydd y Wyddon Gymdeithasol. Fel yr oedd, rhaid inni edrych arno fel cawrfil yn y weilgi, neu lefiathan mewn coedwig, yn byw mewn elfen anghydnaws a'i natur.

1262.

Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod pwysig yn mywyd