Tudalen:Cymru fu.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bonus, swyddog y Pab yn Nghymru; a'r llysgenhadwr Ffrengig.

1265.

Pa fodd bynag, hyn sydd sicr, fod Harri a'i fab Iorwerth wedi eu dal yn garcharorion gan Montforte, yn mrwydr Lewes; ac yna yr oedd y rhan fwyaf o Loegr tan awdurdod y gwrthryfelwyr. Ei elynion cryfaf bellach oeddynt arglwyddi Normanaidd y Cyffiniau, ac yn ben arnynt hwy yr oedd Syr E. Mortimer. Ar ol cryn lawer o fân frwydrau gorfu iddynt hwythau ymostwng; er i'r Pab yn y cyfamser fygwth Llewelyn ag ysgymundod onid ymneillduai o'r cynghrair. Yr arglwyddi Normanaidd a addawsant roddi eu cyfoeth a'u castelli i iarll Leicester, a gadael y deyrnas am un flwyddyn. Ac yn ystod y flwyddyn hon Llewelyn a Leicester a gytunasant, yn nhref Hereford, i fod mewn heddwch parhaol a'u gilydd.

Ond tra yr oedd ein harwr ar y naill law yn chwanegu cryfder, ar y llall yr oedd yn gwanychu. Daeth Diafol y gelyniaeth brodyr yn mlaen drachefn, a thueddodd Dafydd ab Gruffydd i adael achos ei wlad a'i frawd, ac ymuno a'u gelynion. Pa un ai yn ffurf cenfigen, ynte rhyw anghydwelediad ar faterion gwladol, yr ymrithiodd y "diafol" y waith hon, nis gwyddis. Cymerodd Dafydd swydd yn myddin arglwydd Audley, a'r barwniaid Cyffiniol, y rhai yn dra naturiol a anghofiasant eu hadduned o adael y wlad am flwyddyn; eithr gorchfygwyd y fyddin hono gerllaw Caerlleon gyda cholled fawr.

Ymddengys mai mewn rhyw ddull lled drwsgl a di-drefn y gofalai Montforte am ei lwyddiant a'i ysbail rhyfel. Iorwerth y tywysog a ddiangodd o'i afael, ac a ymunodd ag arglwyddi hanner gorchfygedig y Cyffiniau, y rhai ar ei ddyfodiad a gymerasant galon, ac yn fuan yr oeddynt yn feistriaid ar yr holl wlad rhwng Hereford a Chaerlleon. Yna rhuthrasant mor ffyrnig ac annysgwyliadwy ar Montforte a'i fyddin, mewn lle a elwid Evesham, fel nad oedd gan y gwrthryfelwr ddim i'w wneud ond naill ai disgyn i ddwylaw ei elynion neu ffoi am ddyogelwch at Llewelyn. Tra yn aros gyda Llewelyn y waith hon yr addawodd Montforte ei ferch, Eleanor, iddo yn wraig; ac yn gweithredu fel brenin Lloegr, addawodd adfer iddo ei holl freintiau fel tywysog Cymru, ac anrhegodd ef hefyd a chantrefi yr Eglwyswen, gerllaw Gwrecsam, ac Ellesmere yn sir Amwythig; a chastelli Matilda, sir Drefaldwyn; Llaneurgain, a Threfaldwyn, Ar ol hyn Llewelyn a ruthrodd