Tudalen:Cymru fu.djvu/280

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda rhan o'i fyddin i Forganwg; tra yr ymunodd y rhan arall gyda gŵyr Leicester, er mwyn ei dynu allan o'i drybini, a'i gynorthwyo i dori drwy rengau y brenin, ond ymddengys fod y dduwies Ffawd wedi ei adael, ac yn lle dryllio rhengau y gelyn gorfu arno ffoi o'u blaen i'r Casnewydd. Yno, drachefn, gwarchaewyd ef; ac i ochelyd gorchfygiad gwaradwyddus enciliodd yn nyfnder nos ystormus, a chyrhaeddodd derfynau Llewelyn yn ddihangol. Yma y bu am yspaid yn ddyogel; ond gan nad oedd dull y Cymry o fyw yn dygymod â'i wyr, sef yn bennaf ar gig a llaeth heb ond ychydig o fara, yr oedd ei rengau yn teneuo yn barhaus trwy angau ac enciliaeth. Er mwyn cadw y gweddill, gorfu arno ymadael; ac wedi wythnosau o flin deithio trwy goedwigoedd a ffyrdd anhygyrch, cyrhaeddodd ei hen wersyll yn Hereford. Pa fodd bynag, trwy or-lafur ac iselder yspryd yn fuan ar ol hyn efe a fu farw; a'i blaid, i ba un yr oedd yn fywyd ac enaid, a fu farw bron gydag ef. Bu brwydr Evesham yn achlysur rhyddhad y brenin, a'i adferiad i'w holl urddau cynhenid; a'r barwniaid yn mhlaid ddiweddar Montforte, wedi rhoddi arfau i lawr a ffugiasant deyrngarwch. {[canoli| 1267.}} Cafodd y teyrn Seisnig yn awr hamdden i adfyfyrio ar y rhan bwysig a gymerasai Llewelyn yn y gwrthryfel diweddar; a phenderfynodd y cawsai yntau yn awr deimlo holl bwys ei ddialedd. Gyda'r bwriad hwn, daeth gyda byddin gref i'r Amwythig. Ond Llewelyn, heb gynghreiriad, ac yn rhy wan o hono ei hun i wrthsefyll byddin alluog y brenin, a dybiodd mai doethach cynyg telerau heddwch, a thrwy gyflafareddiad Ottobannus, cenhadwry Pab yn y llys Cymreig, penderfynwyd ar y cytundeb manteisiol canlynol, yr hwn a ddengys fod yn hawddach cael gwaeth Harri' na'i well: - Fod yr holl diroedd ar y naill ochr fel y llall i gael eu hadferyd; fod deddfau a defodau y Cyffiniau i aros fel yr oeddynt; fod i Harri ganiatáu i 'Llewelyn a'i olynwyr am byth Dywysogaeth Cymry; fod iddynt ddwyn y teitlau o dywysogion Cymru, a derbyn gwarogaeth y barwniaid Cymreig oddigerth yr eiddo Meredydd ab Rhys o'r Deheubarth, yr hwn oedd i wriogaethu i'r brenin. Y brenin hefyd a ganiataodd i Llywelyn feddiant ar y Pedwar Cantref. Yn gyfnewid am y breintiau hyn yr oedd yn rhaid i'r tywysog Cymreig ystyried brenin Lloegr fel ei frenin ef, a thalu gwarogaeth iddo, yn ol arferiad yr hen dywysogion Cymreig; a thalu y swm o 20,000