Tudalen:Cymru fu.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o forciau mewn arian. Y cytundeb a dynnwyd yn Nghastell Trefaldwyn, a lawnodwyd gan y brenin ei hun, ac a gadarnhawyd ar ran y Pab gan ei genhadwr. Wrth syllu ar sefyllfa annibyniaeth Gymreig, yn y cyfnod hwn, gallesid brudio hir oes iddo, ac fod ei ddydd drwg yn mhell; ond cyffelyb ydoedd i bren yn ysgwyd ei gangau irion yn y gwynt tra'r oedd y dorlan oddi tano yn ymollwng tua'r dibyn erchyll islaw,

1268.

Y flwyddyn hon yr oedd heddwch wedi ei adferyd trwy holl derfynau y llywodraeth Seisnig, a'r tywysog Iorwerth, gan nas gallai fyw allan o sŵn tincian arfau, a aeth i wlad Canaan, i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yn ei absenoldeb, aeth pedair neu bum mlynedd heibio yn heddychol a dedwydd iawn ar y Cymry, ac ni chymerodd' ddim pwysig le hyd

1273.

Yn y flwyddyn hon y bu farw Harri III., wedi teyrnasu am 56 o flynyddau; ac er iddo ymladd llawer o frwydrau gyda'n cenedl ni, yn ystod ei deyrnasiad hirfaith, eto, nid ymddengys fod y gwaith o'u darostwng nemawr pellach yn mlaen ar ddydd ei farwolaeth nag ydoedd ar ddydd ei goroniad. Gyrwyd gyda phob brys am y tywysog Iorwerth i gymeryd gorsedd ei dad. Eithr gan y byddai o angenrheidrwydd rai misoedd cyn y gallai ddychwelyd, apwyntiwyd rhaglawiaeth; ac un o weithredoedd cyntaf y rhaglawiaeth hon oedd, gwysio Llewelyn i Drefaldwyn i dalu gwarogaeth iddi, ac i gydnabod ei hawdurdod. Yntau ni chymerodd y sylw lleiaf o'r alwad — yn gweled mae'n debyg nad oedd waeth iddo dori yr amodau heddwch yn fuan, gan y byddai Iorwerth, oddiar ei anian ryfelgar, a'i gasineb tuag at y Cymry, yn sicr o wneud hyny yn hwyrach.

Ond cyrhaeddodd Iorwerth, a choronwyd ef yn Llundain gyda rhwysg ac urddasolrwydd mawr; brenin Scotland a dug Llydaw, fel deiliad iddo, yn gweinyddu ar yr achlysur. Gwysiwyd Llewelyn yntau i gyflawni yr un warogaeth yn yr Amwythig; eithr efe a nacaodd adael ei deyrnas a dodi ei hun yn nwylaw teyrn mor elynol, oni roddid gwystlon am ei ddyogelwch. Y gwystlon, medd Rymer, a hawliai Llewelyn y tro hwn oeddynt Edmwnd brawd y brenin, iarll Caerloew, a Phrif Ganghellydd Lloegr. Y mae yn anmhosibl peidio caru ei wladgarwch, ac edmygu ei gallin-