Tudalen:Cymru fu.djvu/282

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eb, yn gwrthod cydsynio â'r wŷs sarhaus hon. Beth, Llewelyn, yr hwn oedd bywyd rhyddid ei wlad ar y pryd, a'r hwn a brofodd mor fynych wagder a thwyll y cyfamodau Seisnig, yn anturio ei einioes yn nwylaw ei archelyn Iorwerth? Iorwerth! yr hwn a lochesai yn ei lys frodyr gwrthryfelgar Llewelyn, sef Dafydd a Roderic! - Mab Harri III., yr hwn a fradychasai Gruffydd ab Iorwerth, tad ein harwr, ac a fu yn achlysur o'i ddiwedd truenus! Yr oedd hyd yn oed y Pab bydolelwgar yn gorfod cyfaddef fod doethineb mewn gwrthod gwneud y fath aberth; a rhoddes orchymyn i Archesgob Canterbury nad ysgymunai y tywysog Cymreig.

Tair gwaith yn mhellach, medd Rymer, y gwysiwyd ef; eithr nid oedd modd ei argyhoeddi nad ei faglu oedd yr amcan. Ac er mwyn dangos i'r byd nad ei amcan ef oedd enyn rhyfel, danfonodd lythyr gyda mynachod Conwy ac Ystrad-fflur at Archesgobion Canterbury a Llundain, cynghorwyr y brenin, yn cwyno fod Iorwerth yn llochi Dafydd ei frawd a Gruffydd ab Gwenwynwyn; eithr os enwai y brenin rhyw delerau a lle y gallai ef eu derbyn yn ddyogel, ei fod yn foddlon i ddyfod a thalu ei warogaeth iddo.

Yr oedd dystawrwydd Iorwerth i'r cynygion hyn yn awgrymu i Llewelyn fod tymestl yn darllaw, ac yn hwyr neu yn hwyrach yr ymdorai gyda chynddaredd arswydus ar ei wlad ac yntau. Adwaenai gymeriad ei elyn yn rhy dda i dybied am foment yr anghofiai gosbi; o ganlyniad, dechreuodd ymbarotoi ar gyfer y gwaethaf. Cofus gan y darllenydd ei fod wedi ei ddyweddïo gyda merch i iarll Leicester, ac er fod y bonheddwr hwnw wedi marw yr oedd ei blaid, er yn ddystaw, eto yn lluosog yn Lloegr. Mewn sicrwydd y byddai cydweithrediad y blaid hon yn gymorth mawr iddo yn ei gyfwng presenol, ac yn ddiau oddiar serch tanbaid at y foneddiges ieuanc, penderfynodd fod i'r briodas gymeryd lle yn uniongyrchol. Y pryd hwn, yr oedd y ddyweddi yn trigo yn nghrefydd-dy Montargis, Ffrainc; a Llewelyn a ddanfones at frenin y wlad hono yn gofyn iddo anfon Eleanor de Montforte i Gymru i briodi. Cydsyniodd y teyrn hwnw; a chychwynnodd y ddywediedig a'i brawd, offeiriad ieuanc o'r enw Amaury, ar eu mordaith tua Chymru. Ond pan oedd eu llong yn neshau tuag Ynysoedd Scilly, wele bedair o longau rhyfel Iorwerth yn eu cyfarfod, ac yn dwyn y llestr trwy drais i borthladd Bristol, a'u cymeryd hwythau oddi yno i lys y brenin. Y brenin, yn lle rhoddi y forwyn Ieuanc ar unwaith i ddwylaw ei chariad yn ol deddfau