Tudalen:Cymru fu.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diffynol (Cinque Ports) gydweithredu ar y môr, ac ymosod ar Ynys Môn, gan mai oddiyno y cai'r Cymry y rhan fwyaf o'u lluniaeth yn amser rhyfel. Anfonodd fyddin hefyd i'r Deheubarth, i adgyfnerthu Payen de Chaworth, fel y gallai hwnw wthio yn mlaen i'r Gogledd; a thrwy hyn y byddai gan Llewelyn dri ymosodiad i'w gwylio ar unwaith. Nid oedd y cynllun hwn yn wreiddiol i Iorwerth, canys ei dad o'i flaen a'i defnyddiasai ugain mlynedd yn ol gydag aflwyddiant truenus; gwyn fyd y Cymry pe gallesid dweyd yr un peth am ei ffrwyth y tro hwn o flaen byddin luosog y Deheudir, Rhys ab Maelgwn a gŵyr Geneu'r Glyn, yr unig ffyddloniaid yn y cŵr hwnw, a giliasant i Wynedd, gan adael eu tir yn ddiffaeth. Gauafodd Iorwerth ar Forfa Caer - yno yr oedd ei brif wersyll, eithr ei wŷr a dreiddiasent amryw filldiroedd yn mhellach i'r wlad, ac a adeiladasent gastell yn Fflint. Oddiyno aethant gan belled a Rhuddlan, ac adgyweirio y castell hwnw hefyd a wnaethant.

Yn yr haf, y brenin yn gweled fod y Cymry wedi gadael y Perfeddwlad, a orymdeithiodd mor bell a'r afon Gonwy. Yr oedd Llewelyn wedi croesi yr afon hono o'i flaen, ac yn ymlechu yn nghadarnfeydd Eryri; ac er holl gynddaredd a chryfder y brenin y tro hwn eto ni feiddiai efe groesi yr afon a ddywedasai gynifer o weithiau wrth drais a gorthrwm "hyd yma yr ewch a dim yn mhellach," A diau pe buasai ein harwr wedi darparu ar gyfer porthiant ei wŷr lluosog, trwy ddwyn digon o luniaeth gydag ef o'r iseldiroedd cyn encilio, y cawsai drachefn y pleser o weled byddin fostfawr y Sais yn dihoeni gan afiechyd a newyn, ac yn gorfod dychwelyd yn ol i'w gwlad mewn gwarth a chywilydd. Ond fellu'r anffawd, nid oedd ganddo ef a'i wŷr ond ychydig iawn o luniaeth ar eu cyfer eu hunain, a'r lluaws ffoaduriaid oedd tan eu nawdd. O ganlyniad, dechreuodd newyn hylldremu yn eu hwynebau; a thra yr oedd Môn yn nwylaw'r gelyn, a'r Iseldiroedd wedi eu hanrheithio ganddo, a'i lynges yn gwibforio hyd y glennydd, er atal pob cymorth o Ffrainc ac Iwerddon, daeth cyfyngder mawr yn Eryri; a thybiodd Llewelyn mai y llwybr doethaf fyddai dyfod i ryw fath o heddwch. Gwyddai mai anfanteisiol iawn iddo ei hun fyddai'r cyfryw heddwch o angenrheidrwydd, onide, ni dderbynnid hwy gan y blaid wrthwynebydd. Cydsyniodd y brenin i dderbyn ei gynygiad ar y telerau fod iddo roddi ei hun ar ei diriondeb ef. Nid oedd ond tiriondeb creulawn i'w ddisgwyl oddiar ei law; ac er mor anhawdd i dywysog fel Llewelyn ymostwng,