Tudalen:Cymru fu.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto, yr oedd gwaredigaeth ei gydwladwyr newynog yn galw am iddo wneud hyny; ac awgryma llawer hanesydd fod ei serch anorchfygol at y garcharedig Eleanor de Montforte yn ei ddirgel gyfeirio at ffafr Iorwerth, fel yr unig lwybr y gallai gael gafael ar obaith ei lygaid. Felly penderfynwyd ar y telerau canlynol: Fod i'r tywysog ryddhau ei holl garcharorion rhyfel, a thalu i'r breniu ddeng mil a deugain o forciau. Fod i bedwar cantref y Perfeddwlad gael eu rhoddi i fynnu i'r brenin a'i hiliogaeth tros byth. Fod pleidwyr y Saeson i gael eu hadferyd i'r holl feddianau oedd eiddynt ar ddechreu y rhyfel. Fod i'r tywysog gadw meddiant o Ynys Môn, a thalu i'r brenin fil o forciau bob blwyddyn am dani; eithr os byddai efe farw yn ddi epil fod i'r Ynys syrthio i feddiant y brenin a'i etifeddion hyd byth. Fod i'r holl farwniaid Cymreig ddal eu tiroedd tan y brenin, oddieithr pum arglwydd Eryri, y rhai oeddynt i arddel Llewelyn fel penteyrn am ei oes ef. Fod i Llewelyn ddyfod i Loegr bob Nadolig i dalu gwarogaeth i'r brenin; ac fod iddo, mor fuan ag y cai ryddhad oddi wrth ei ysgymundod, ddyfod i Ruddlan ac ymostwng ger bron ei orchfygydd; a myned i Lundain ar amser penodedig i gyflawni defod gyffelyb yno wedyn. Am ei oes ef yr oedd yr enw Dywysog Cymru i gael ei arddel; ac ar ôl hyny, yr oedd pum' barwn Eryri i ddal eu tiroedd tan y brenin. Er mwyn sicrhau cyflawniad yr amodau hyn, yr oedd y Tywysog i roddi yn wystlon ddeugain o brif bendefigion Gwynedd. Fod iddo bob blwyddyn, gyda deugain o foneddigion gymeryd llw i gadw yr amodau hyn; ac os byddai iddo mewn un modd ballu cyflawni yr hyn a addawsai, fod y boneddigion hyny yn rhwym trwy eu llwon i ymadael ag ef, a phleidio'r brenin. Fod iddo ryddhau ei frawd Owen o garchar, ac adferyd iddo ei feddianau; talu mil o forciau yn y flwyddyn i'w frawd Roderic; a phum' cant mhorc i'w frawd Dafydd. Dyma y cyfeiriad cyntaf a geir at Roderic - wedi dianc o garchar yn nwylaw Llywelyn yr ydoedd yn awr, ac ymuno a'r Saeson. Yr oedd Dafydd hefyd y pryd hwn yn ngwasanaeth Iorwerth, yr hwn a'i gwnaeth yn farchog, ac a roddes iddo mewn priodas ferch iarll Derby, Ystafellyddes i'r frenhines; gweddw brydferth newydd gladdu ei gŵr. Gwnaed Dafydd hefyd yn arolygwr yr holl gestyll Seisnig yn Nghymru; a'r brenin a wnaeth anrheg iddo o gestyll Dinbych, a Frodsham yn sir Gaer, gyda thir yn perthyn iddynt gwerth mil o bunnau yn y flwyddyn.

Fel breintiau i'r tywysog, chwanegwyd y telerau canlynol: Os efe a hawliai diroedd, oddieithr y rhai yn