Tudalen:Cymru fu.djvu/287

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddiant y brenin, neu yn mhedwar cantref y Perfeddwlad, gweinyddid cyfiawnder yn ol defodau yr ardaloedd yn mha rai y digwyddai y cyfryw diroedd sefyll. Fod camymddygiadau a beiau pob plaid i gael eu dileu a'u llawn faddeu. Fod i'r deiliaid a ddalient diroedd yn y pedwar cantref, eu dal ar yr un telerau a chyn dechreuad y rhyfel. Fod pob ymrafael a ddigwyddai rhwng y tywysog, os ar y Cyffiniau y digwyddent, gael eu terfynu yn ol deddfau y parthau hyny; os yn Nghymru, yn ol cyfreithiau Cymru. Y byddai pob elw oddiwrth y llongddrylliadau a gymerent le ar forlenydd y tywysog yn eiddo iddo ef; yn nghyda phob breintiau eraill cyffelyb a fwynheid gan ei hynafiaid; ac fod pob cweryl i gael ei benderfynu yn yspryd y cytundeb blaenorol. Yr amodau hyn a gadarnhawyd ai ran Llewelyn gan Tudur ab Ednyfed a Gronw ab Heilyn; ac ar yr ochr arall gan wŷr cyfrifol.

1278.

Y brenin, o'i ewyllys da, a wrthododd y tâl blynyddol; dwy fil o forciau yn unig a dderbyniodd, a hyny yn Rhuddlan. Yna efe a ddychwelodd yn fuddugoliaethus i Lundain, a derbyniwyd ef yno gyda llongyfarchiadau a llawenydd mawr. Tybiai fod ei waith yn gyflawn, a'i droed ar annibyniaeth y Cymry. Yn mysg ei osgorddlu, ac yn chwanegu at rwysg ei orymdaith, yr oedd y llew gorchfygiedig, mewn cyflwr diraddiol mae'n wir, ond yn llew er hyny. Yr oedd y deugain gwystlon hefyd oll yn arglwyddi cyfrifol Cymreig, yn urddasol yr orymdaith hono ar eu taith i'r Brifddinas gyda'u Tywysog i dalu gwarogaeth yno drachefn, a hwynt-hwy i aros yno yn sicrwydd am gyflawniad y cytundeb rhag-grybwylledig. Wedi i ddefod y warogaeth fyned heibio, y barwniaid hyn a letyent mewn rhan o Lundain a elwid Islington, a phentrefydd cyfagos; a chawsant hwy, a'r lluosog wasanaethyddion a ddygasent gyda hwynt o Gymru, brofi yn fuan o wermod chwerw dibyniaeth. Yr oedd y llaeth yn brin; ac nid oeddynt hwythau yn hoffi, a diamheu na buasai yn dygymod a'u cyfansoddiad, gwrw a gwinoedd a mwythderau Llundain. Yn chwanegol at hyn, byddai lluaws o bobl, pa bryd bynag y deuent allan o'u lletai, yn eu dilyn ac yn sylldremio'n ddirmygus arnynt fel pe buasent gynifer o anwariaid, ac yn gwawdio eu golwg dyeithr, a'u hymddangosiad anghyffredin. Hyn a barai iddynt ystyried y Saeson yn bobl anniwylliedig a digroesaw i ddyeithriaid, a gweled bod yn well dwyn y cledd hyd lechweddau