Tudalen:Cymru fu.djvu/288

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

noethlymion eu gwlad eu hunain, na derbyn moethau yn mhlith estroniaid, ar drugaredd galed gormeswr a'i ddeiliaid gwawdus ac erledigaethus. Daethant i'r penderfyniad o wrthryfela y cyfleusdra cyntaf, a marw yn wŷr rhyddion yn hytrach na byw yn gaethion.

Yr oedd yn amlwg i bawb yn awr mai amcan Iorwerth ar farwolaeth Llewelyn oedd uno Cymru oll a'i goron. Ond efe a wyddai yn eithaf da na byddai dewrder a chariad yr hen genedl Gymreig at ryddid ddim marw gyda ei Thywysog; o ganlyniad, nid arbedai unrhyw drafferth tuag at ennill ei hewyllys da, a dileu eu rhagfarnau hyny a fyddent yn sicr o wrthweithio ei fwriadau. Yr oedd yn hysbys iddo fod traddodiad yn ffynnu yn eu mysg y byddai i'w hen Frenin Arthur ail-ymddangos i ddial eu camwri, ac adennill iddynt eu hollol annibyniaeth a'u breintiau cyntefig. Gyda'r amcan o ddileu yr ofergoeledd hon, Iorwerth a'i frenhines a gyrchasant i Lys Afallen (Glastonbury), ar gyffiniau Gwlad yr Haf, lle y dywedid fod esgyrn Arthur yn gorwedd; a than yr esgus o anrhydeddu ei weddillion, parodd eu cyfodi a'u harddangos yn gyhoeddus, ac yna dodwyd hwynt i orwedd yn y fynachlog gerbron yr allor; ac yn gerfiedig ar yr arch yr oedd hysbysiad beth oedd ei ;chynhwysiad, ac i'r esgyrn o'i mewn gael eu gweled gan frenin a brenhines Lloegr, ar y dydd a'r dydd, pan oedd hefyd yn bresennol Iarll LaToy, Esgob Norwich, a lluaws o bendefigion ac arglwyddi.

Yn ystod arosiad y brenin yn Glastonbury, cynhaliwyd senedd yno; a gwysiwyd Llewelyn i ymddangos ger ei bron, gyda'r amcan, mae'n ddiamheu, o argraffu ar ei feddwl yntau a'i osgorddlu y sicrwydd am farwolaeth y hen frenin, a'r anmhosiblrwydd o sylweddoli y dychymygion gwagsaw am ei ailddyfodiad. Pa fodd bynag, cafodd Iorwerth brawf fod annibyniaeth y Cymry eto yn fyw; ac er ei holl fost o'u gorchfygu, yr oedd eu cariad at ryddid yn anorchfygol; ac fel eu cynrychiolydd, gwelodd Llywelyn yn dda anufuddhau y wŷs hon o Glastonbury.

Nid gŵr i oddef sarhad oedd Iorwerth; ond, er hyny, yr oedd yn ddigon call i wybod nad cosbi Llywelyn oedd y llwybr sicraf iddo gyrhaedd ei amcan mawr, sef darostyngiad y genedl yr oedd Llywelyn yn ben arni. Methasai yn hyn trwy ddewrder, yn awr beth fyddai iddo roddi prawf ar ffalsder. Prysurodd, a'i frenhines gydag ef, i Worcester; a thrachefn gwysiodd Llewelyn i ddyfod yno. Eithr rhag y gwrthodai eilwaith, galwyd y wys hon yn gwahoddiad i wledd," a meluswyd hono drachefn gan