Tudalen:Cymru fu.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwystlaeth ar briodas y Tywysog, pan ddychwelasant i'w gwlad, a ddechreuasant hau hadau gwrthryfel yn mhlith eu cydgenedl, a'u hanog i anufudd-dod pa bryd bynag y deuai'r amser cyfaddas. Hefyd, yr oedd cyngaws cyfreithiol rhwng Llewelyn a Gruffydd ab Gwenwynwyn yn nghylch ystâd a ddaliai gan y brenin ar y Cyffiniau Seisnig. Gwysiwyd Llewelyn, yn groes i'w urdd fel tywysog, i fod yn bresennol yn y cyngaws hwnw. Nid oedd Dafydd, ei frawd, ychwaith er wedi gadael ei wlad ac ymuno â'i gelynion, ddim heb achwynion celyd yn erbyn ei gyfeillion mabwysiedig. Gwysiwyd yntau gan Sais o'r enw Wm. Venables, yn groes i ddefodau Cymru, ac yspryd yr amod rhyngddo â'r brenin, i ymddangos yn nhref Caerlleon, o achos rhyw gamwri yn mhentref Estyn. Y swyddog hwnw hefyd a gymynasai goedwigoedd ar etifeddiaeth Dafydd yn Lleweni, Dyffryn Clwyd, gan eu cludo i'r Iwerddon, a chadw arian eu gwerthiant iddo ei hun. Reginald de Grey swyddog Seisnig arall, hefyd a fygythiodd ddwyn oddiarno gastell Hope, a chymeryd ei blant yn wystlon am ei iawn-ymddygiad yn y dyfodol. Llawer o benaethiaid Cymreig ereill a gwynent yn barhaus o herwydd trais anniwall eu goresgynwyr. I goroni y cyfan, Iorwerth a apwyntiodd lysoedd cyfreithiol Seisnig, ac a rannodd Gymru yn siroedd, ar ddull siroedd Lloegr; a chan ddileu hen gyfreithiau doethgain Hywel Dda, sefydlodd y rhai Seisnig yn eu lle. Y mae yn syn pa fodd y darfu i deyrn mor lwynogaidd a Iorwerth erioed feddwl am gyflawni gweithred mor ynfyd. Dylasai wybod fod defodau a chyfreithiau cenedl yn bethau tra anwyl ganddi, a'u diwreiddio tan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol yn orchwyl peryglus. Pa faint mwy felly gyda chenedl mor hoff o hynafiaeth, ac mor effro i bob sarhad, â'r genedl Gymreig? Penderfynasant fel un gŵr na fynnent na chyfreithiau na defodau ond eu cyfreithiau a'u defodau henafol eu hunain.

Heblaw trallodion cyhoedd Llewelyn, cyfarfyddodd a thrallod deuluaidd chwerw. Bu farw ei wraig, Eleanor, cyn pen dwy flynedd wedi ei phriodas, ar enedigaeth merch fach. Fel hyn, ar ol disgwyl blynyddau lawer am dani, a'i chael yn y diwedd trwy waseiddio ei hunan, byr a darfodedig fu ei fwynhad gyda hi. Trwy ei bod o haniad Seisnig, ac yn berthynas i'r brenin, ymddengys fod ynddi dueddfryd gref at heddychu y ddwy genedl; ac yn ei marwolaeth hi, torrwyd y cysylltiad olaf rhyngddynt.