Tudalen:Cymru fu.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrthryfelwyr. Ni chynhyrchodd ei ymweliad ond ychydig, os dim lles. Yn y cyfamser, Iorwerth a gychwynnodd i'w ymdaith, a chyrhaeddodd Worcester yn niwedd Ebrill. Deallodd y cai lawer mwy o waith darostwng ar y gwrthryfel nag a ddychymygasai wrth gychwyn. Oddiyno gwysiodd ei ddeiliaid i'w gyfarfod yn Rhuddlan yn mis Mehefin. Ar ei daith rhwng Worcester a Chaerlleon, pobl y wlad a ymunasant âg ef, y rhai a osododd efe ar waith i agor ffyrdd o'i flaen yn Nghymru. Ar ol tario yn Nghaer am bumthegnos, i adfywio ei wŷr, efe a ymosododd ar gastell Hope. Y gadarnfa hon, meddiant y tywysog Dafydd, a roddwyd i fynu bron ar ei ddyfodiad. Pan ddynesodd efe hefyd at Ruddlan y tywysogion Cymreig a godasant y gwarchae, ac a enciliasant tuag Eryri, gan ddewis yn hytrach orchfygu mân finteioedd y brenin, nag anturio brwydr agored gyda'r fath fyddin fawr anghyfartal. Eithr nid oedd yr enciliad hwn ond ffug i faglu eu gelynion; troisant ar eu herlynwyr, adran gref o'r fyddin Seisnig; ac mewn brwydr a gymerodd le rhyngddynt â hi, daliasant bedwar-ar-ddeg o'i swyddogion: lladdwyd yr arglwydd Audley, ac eraill wŷr o urddas; a chymaint oedd braw y brenin ei hun, o herwydd y gorchfygiad hwn, fel yr ymgiliodd o Ruddlan i gastell Hope er ei ddyogelwch. Ond erbyn canol Gorphenaf yr oedd efe wedi ân- turio i Ruddlan eilwaith; ac yr oedd yn gyneuaf cyn y gallodd ddechreu ar unrhyw symudiad o bwys. O Ruddlan, efe a ddanfonodd wysiadau at siryddion y siroedd cyfagos, yn gorchymyn iddynt ddanfon gwŷr ato i gymynu'r coed, ac arloesi ffordd i'w fyddin ymwthio yn mhellach tua'r Gonwy. Ac er mwyn chwanegu sêl at ei achos, rhannodd y Pedwar Cantref, y rhandir ag oedd eisoes tan ei awdurdod, rhwng arglwyddi Seisnig.

Yr ydym yn awr yn myned i gyfnod newydd yn mywyd ein harwr - cyfnod y cyflafareddiad (arbitration), pryd yr amcanai Iorwerth trwy deg gyflawni yr hyn yr ofnai nas gallai ei gyflawni trwy annheg - cyfnod yr ysgrifennu llythyrau, yn mha un y daw ochr ddisglaer ar gymeriad Llewelyn i'r golwg, a'i allu a'i athrylith yn llewyrchu lawer mwy tanbaid ynddo nag wrth garu y cledd. Nid ydym am ddibrisio egwyddor fawr ogoneddus cyflafireddiad (bydd hi yn ben toc, a brysied y dydd!); ond yn offeryn yn llaw malais, ffiaidd beth ydyw - drewdod yn nwylaw gŵr fel Iorwerth, canys amlwg yw mai llyfu y garreg yr ydoedd am nas gallai yn rhwydd ei chnoi. Yrra yn bygwth ar y naill law, denai ar y llall. Danfonodd archesgob