Tudalen:Cymru fu.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llywelyn, y bydd i'w Fawrhydi ddarparu cynhaliaeth anrhydeddus iddi o fil o bunau yn y flwyddyn a rhyw iarllaeth gyfaddas yn Lloegr; ond ar y tir y byddai i Llewelyn roddi i'r brenin feddiant o Eryri yn gyflawn ac am byth. Y brenin a ddarparai hefyd tros ferch y Tywysog yn weddus megis i'w briod waed ei hun. Ac y maent yn gobeithio llwyddo i dueddu meddwl y brenin at hyn.

"Eto, os digwydd i Llewelyn gymeryd gwraig, a chael o honni blant, y pendefigion a fwriadant erfyn ar y brenin fod i'r hiliogaeth hyny ddilyn Llewelyn yn y diriogaeth, sef yr iarllaeth, mewn etifeddiaeth fythol.

" Eto, am y bobl dau briodol lywodraeth y Tywysog, yn Eryri cystal ag yn mhobman arall, darperir yn gyflawn am eu dyogelwch a'u hanrhydedd. Ac at hyn y mae tiriondeb y brenin yn ddigon tueddol, gan ddymuno darpar ar gyfer cysur ei bobl."

A ganlyn a ddarllenwyd wrth Dafydd brawd Llewelyn yn ddirgel.

" Os, er clod i Dduw ac iddo ei hun, y cymer efe y groes ac yr â i'r Tir Sanctaidd, darperir iddo yn anrhydeddus yn ol cyfaddasrwydd ei sefyllfa; ond ar y telerau na ddychwelai oni elwid arno trwy diriondeb y brenin. Ac ni a erfyniwn ar ei Fawrhydi, ac yr ydym yn gobeithio ymwrandawiad llwyddiannus, y bydd i'w Fawrhydi wneud darpariad iddo ef a'i epil.

" At y pethau hyn yr ydym o'n hewyllys da ein hunain y'n ychwanegu fod pob peryglon yn hongian uwch ben eich cenedl, peryglon llawer trymach nag yr ydym ni wedi son am danynt. Yr ydym yn ysgrifennu pethau celyd, ond llawer caletach fyddai rhuthro arnoch trwy nerth arfau, ac yn y diwedd eich hollol ddyddimu; ac y mae'r peryglon hyn yn cynyddu yn barhaus.

"Eto, peth anhawdd iawn ydyw bod bob amser mewn rhyfel; byw mewn blinder corph ac yspryd, a beunydd yn ymddigasu mewn dichellion; ac heblaw hyn, byw a marw mewn pechod marwol diderfyn, a chenfigen.

"Eto, bydd ein galar yn fawr os na ddenwch mewn rhyw fodd i heddwch, canys ofni yr ydym y bydd raid cyhoeddi dedfryd Eglwysig arnoch oherwydd eich troseddau, oddiwrth y rhai nis gellwch ymesgusodi, ac am y rhai y cewch ryddhad od ymostyngwch. Ac am y pethau hyn rhodder i ni ateb ysgrifenedig."