Tudalen:Cymru fu.djvu/297

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ent i unrhyw estron, o iaith, a moesau, a chyfreithiau, yr hwn y byddent yn hollol anwybodus; oherwydd dichon y dygid hwynt felly i gaethiwed parhaus, a'u trin gyda chreulonder, megis y triniwyd cantrefi eraill oddiamgylch, gan swyddogion y brenin a'i weision, yn fwy creulon na Saraceniaid, fel ag y gwelir yn yr ysgrifau a ddanfonasant atoch, Sanctaidd Dad. "

Yn ngeiriau y gwladgarol Carnhuanawc, yn ei Hanes y Cymry, o ba lyfr y codasom yr ohebiaeth hon, bron air yn ngair, gan fod y cyfieithiad o honi ganddo mor dda fel nas gellir ei well; yn ngeiriau'r athrylithgar Garnhuauawc,"Clod i'ch coffadwriaeth anrhydeddus, chwi Bobl Eryri. Da y meithriniasoch y wreichionen ddiweddaf o annibyniaeth Cymraeg. Nid ymffrost wag a wnaethpwyd genych, pan lefarasoch y penderfyniad hwn; ond ad-brynasoch eich ymwystliad â gwaed eich calonnau - gwaed goreu Ewropa, yr hwn a ffrydiodd yn helaethlawn rhwng creigiau Eryri, pan, wedi syrthiad eich Tywysog, yr aberthasoch chwithau eich einioes yn yr un achos gogoneddus. Clod i'ch coffadwriaeth; a bydded i'r un yspryd, yr hwn a'ch bywiocaodd chwi, eto weithredu yn ein cenedl pa bryd bynag y goddefont ormes. Collasoch eich bywyd, mae'n wir; ond enillasoch i'ch plant barch a breintiau, y rhai ni fuasent byth yn eu mwnau ar law y gorthrymydd, oni buasai eich ymarweddiad dihafarch."

Ateb Dafydd ab Gruffydd.

"Pan elo efe i'r Tir Sanctaidd, efe a â o'i fodd ac o'i galon i Dduw ac nid i ddynion; a thrwy ganiatâd Duw nid â yno yn anfoddlawn, canys gwyrfod gwasanaeth trwy drais yn anfoddlawn gan Dduw. Ac os digwydd iddo ar ôl hyn fyned i'r Tir Sanctaidd o'i wir ewyllys ei hun, ni ddylai ef a'i etifeddion o achos hyny gael eu dietifeddu, ond yn hytrach enill gwobrwy. Heblaw hyn, nid yw y Tywysog a'i bobl yn cynnal rhyfel yn erbyn neb o achos dygasedd, neu elw, trwy ymosod ar diroedd eraill; ond er amddiffyn eu hetifeddiaeth a'u breintiau, a'u rhyddid eu hunain; a'r arglwydd Frenin a'i bobl a gynhaliant ryfel er mwyn hen ddygasedd ac yspeilio ein tiroedd ni. Yr ydym yn credu ein bod yn cynnal rhyfel gyfiawn; a gobeithiwn yn hyn y bydd i Dduw ein cynorthwyo, a thrwy Ei ddwyfol ddialedd yn erbyn difrodwyr yr eglwysi, y rhai yn llwyr a ddinystriasant, ac a losgasant, ac a yspeiliasant o'u dodrefn sanctaidd; a laddasant yr offeiriaid, y crefyddwyr llenyddol, y cloffion, y byddariaid, y mudion, y plant yn