Tudalen:Cymru fu.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sugno bronau, y methedig, a'r cystuddiedig, heb arbed na gwryw na benyw; felly bydded yn mhell oddiwrth eich Sanctaidd Dadoldeb daranu unrhyw ddedfryd yn erbyn neb oddieithr y sawl a gyflawnasant y cyfryw bethau. Canys nyni, y rhai a ddyoddefasom y cyfryw bethau gan swyddogion y brenin, ydym yn gobeithio derbyn eich tadol gysur o'u herwydd, a cheryddu o honnoch y cyfryw gysegr-yspeilwyr a'u cefnogwyr, y rhai nid ellir amddiffyn eu gweithredoedd hyn mewn un modd, rhag, o achos eisiau adferyd dyledus gerydd arnynt hwy y bydd i'r drygau rhag-enwedig gael eu gwneud yn gynllun gan eraill.

" Hefyd, y mae llawer yn ein gwlad yn rhyfeddu eich bod yn ein cynghori i adael ein gwlad ein hunain, a thrigo yn mhlith gelynion, canys os nad allwn gael heddwch yn ein cyfiawn wlad gynhenid, pa fodd y cawn heddwch mewn gwlad ddieithr yn mhlith estroniaid? Ac er mai caled yw bywyd rhyfel a chynllwynion, eto caletach fyddai cael ein llwyr ddyfetha. Duw a luddias i bobl Gristionogol gael eu diddymu am amddiffyn eu gwlad a'u breintiau. Felly gorfodir ni i hyn gan angenrheidrwydd a chan drachwant ein gelynion; a chwychwi, Sanctaidd Dad, a ddywedasoch yn ein gwydd eich bod am gyhoeddi dedfryd y rhai, er mwyn dygasedd neu elw, a gythryblant yr heddwch; ac y mae yn amlwg i bawb pwy ydynt y cyfryw.

"Gan hyny, cymhellir ni i ryfel gan ofn angau a charchariad, neu ddietifeddiant parhaus, gan ddirmygiad amodau, creulawn lywodraethiad, a llawer o bethau cyffelyb. A hyn a ddangoswn i chwi, a deisyfwn genych dadol gynhorthwy.

"Yn mhellach, sylwn fod llawer eraill yn nheyrnas Lloegr wedi digio y brenin, ond eto ni ddietifeddodd efe neb o honynt am byth, fel y dywedir. Ac os darfu i neb ohonom ninau ei ddigio ef yn anghyfiawn, dylem wneuthur boddlonrwydd iddo hyd y gallom, eithr ni ddylai ef ein dietifeddu. A chan ein bod yn ymddiried ynoch, erfyniwn arnoch ymdrechu tuag at ddwyn hyn oddi amgylch, Sanctaidd Dad. Haerir yn ein herbyn ein bod wedi tori yr heddwch, eithr hwynt-hwy yn hytrach a'i torasant a phob amod a chytundeb gydag ef."

Y mae yn anhawdd dirnad am ddim mwy rhesymol, teimladol, ac yn cynnwys mwy o wladgarwch pur a diragrith, na'r llythyrau hyn; eithr atebwyd hwynt gan Archesgob Canterbury, mewn llythyr maith, yn cynnwys y syniadau mwyaf bustlaidd, cyfrwysgall, a gwawdus. "Diystyrasom," meddai'r prelad maleisus dduwiol, "anhawsderau a