Tudalen:Cymru fu.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pheryglon y daith, a daethom atoch i ddychwelyd defaid crwydredig:, ac i fynegu i chwi a'n lleferydd ein hunain eich peryglon a'r modd i'w hysgoi." Yna gan gymeryd enw y Goruchaf yn ofer, a'i alw yn dyst o ddidwylledd y gennad, â yr Archesgob yn mlaen mewn dull trahauslyd, mwy gweddus i swyddog Iorwerth I nag i ŵr Duw. Yn y rhan olaf hon o'r ohebiaeth y mae'n amlwg fyd y prelad wedi colli ei natur dda, ac arwydda ei dymer ddrwg fod ei resymau wedi gwisgo allan. Haera mai enciliad oeddynt y Cymry o Troi, ac fod rhan o'r genedl Seisnig yn Mhrydain cyn dyfodiad y Cymry, sef y Cewri y sonia traddodiad am danynt. Edliwiai iddynt wendid y Brutaniaid yn gorfod gwahodd y Saeson trosodd i'w hamddiffyn rhag rhuthriadau y Pictiaid a'r Scotiaid. Galwai hwynt yn llofruddion ac yspeilwyr; a dywedai i Hywel Dda ffurfio ei gyfreithiau trwy awdurdod y diafol. Danodai nad oeddynt yn amddiffyn yr Eglwys yn erbyn Paganiaid trwy filwriaeth [ergyd i Dafydd ab Gruffydd oedd hon yna]; nac ond ychydig o honynt yn ei haddurno trwy lenyddiaeth; ond yn treulio eu hamser mewn segurdod "fel braidd y gwŷr y byd eich bod yn bobl oddieithr trwy yr ychydig ohonoch a welir yn cardota. "

Bellach, rhoddwyd yr ysgrifbin i dwyllo o'r neilldu, a chymerwyd y bidog yn ei le i drechu. Ac er holl aflwyddiant yr ymdrafodaeth flaenorol, llwyddodd i ddynoethi bwriadau yr Archesgob, ac i brofi mai blaidd mewn croen dafad oedd efe, ac nad oedd ei holl broffesiadau o gyfeillgarwch yn nechreu yr ohebiaeth ond twyll a rhagrith. Efe a seliodd y rhagrith hwn yn mhellach trwy felldithio Llewelyn, a thywallt ar ei ben phiolau barnedigaethol Eglwys Rhufain. Ac ni buasai'r prelad ychwaith mor barod i warthruddo a drwg-liwio ein cenedl, oni buasai fod ei gelynion yn nerthol a lluosog. Gwyddai ef yn dda pa blaid oedd y gryfaf, a pharai hyn iddo siarad yn haerllug a hyf. Tra yr oedd Lloegr a'i chynghreiriaid Gwyddelig a Ffrengig yn unol, a'r Cymry, o'r ochr arall, yn ymranedig, nid oedd angeu dewin i hysbysu pwy fyddai drechaf.

Yn y cyfamser, nid oedai Iorwerth ei ddarpariadau; a chyn bod yr ohebiaeth drosodd, yr oedd wedi gwersyllu ei fyddin ar fin y Gonwy, wrth wadnau Eryri. Yna efe a ddanfonodd lynges o forwyr a gŵyr traed i ymosod ar Ynys Mon. Gwaith rhwydd a gafodd y rhai hyn, canys y rhan luosocaf o arglwyddi yr Ynys oeddynt tan lŵ o ffyddlondeb i'r brenin er yr heddwch diweddaf; ac felly ychydig o'r ffyddloniaid a ymgynullasant i wrthsefyll y