Tudalen:Cymru fu.djvu/301

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu cof i 'nol daroganau Myrddin, ac o honynt sugnent y grediniaeth y byddai Llewelyn yn ben teyrn yr Ynys hon; a thra y tybient hwy fod gwawl euraidd yn ymdroi arnynt nid oedd y cwbl ddim ond fflachiad mellten cyn ymdoriad y dymestl. Pa fodd bynag, dychrynwyd y brenin Iorwerth yn aruthr, a chiliodd o Gonwy i Ruddlan, gan na feiddiasai ymlid ei elynion yn mhellach i'r mynyddoedd, ac nad oedd yn ddyogel iddo aros yn hwy wrth eu godreu.

Cyrhaeddodd y newydd am y fuddugoliaeth hon i'r Deheudir, a chalonogodd bleidwyr y tywysog yn fawr. Rhys ab Maelwyn a Gruffydd ab Meredydd, penaethiaid y blaid hon, a enillasant amrai gantrefi oddiar y Saeson yn Ngeredigion a sir Gaerfyrddin; a'r brenin a ddanfones Iarll Gloucester a Syr Edmwnd Mortimer yno i ddarostwng y gwrthryfelwyr. Cymerodd brwydr le ger Llandilo Fawr, yn mha un y gorchfygwyd y Cymry gyda cholled fawr; a'r Saeson a gollasant heblaw lluaws o wyr cyffredin, bum' marchog, un o ba rai oedd William de Valence, cefnder y brenin.

Llewelyn, yn gweled fod Eryri yn ddyogel oherwydd ymgiliad y brenin, a ymddiriedodd wyliadwriaeth y rhan hono i'w frawd Dafydd, ac a orymdeithiodd gyda chwe' mil o wyr tua'r Deheudir, er mwyn calonogi ei gyfeillion yno, a dial ar ei elynion; yn eu plith Rhys ab Meredydd yr hwn a fradychasai ei egwyddorion, ac a droesai at y Saeson. Diffeithiodd Geredigion, cyfoeth y Rhys hwn; ac oddiyno cyfeiriodd ei gamrau tua chantref Buallt, lle yr oedd wedi addaw cyfarfod gŵyr o'r wlad hono er mwyn cynghreirio â hwynt. Daeth ei symudiadau i'r Deheudir i glustiau y brenin, ac efe a ddanfonodd orchymyn at Oliver de Dyneham, un o'i swyddogion yn swydd Maesyfed, iddo groesi yr Hafren i sir Gaerfyrddin, a gwylio pob cyfleusdra i orthrechu'r tywysog.

Llewelyn, er mwyn cyflawni ei addewid o gyfarfod gŵyr Buallt, a adawodd gorph ei fyddin ar fryn cyfagos i bentref Mochryd, tua thair milldir oddiwrth yr afon Wy, y rhai oeddynt i wylio a gwrthsefyll ymosodiad Dyneham; a chan nad oedd yn ofni perygl o'r un cyfeiriad arall, ni chymerth ond ychydig o wyr gydag ef. Gyda'i fintai fechan aeth gan belled ag Aberedwy, a rhoddes y gwŷr i wylio Pont Orewyn, yr unig bont dros yr afon Wy yn yr ardal hono, fel na ddeuai perygl oddiyno ychwaith. Dywed un hanes fod gan y Tywysog balas yn Aberedwy, ac mai yn y palas yr oedd y cyfarfod i gymeryd lle, ond nid ydyw hyny yn rhesymol, gan fod Buallt ers amser maith