Tudalen:Cymru fu.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn hyn bron yn gyfangwbl tan lywodraeth y Saeson; dywed eraill, yr hyn yn ôl pob argoelion sydd gywir, eu bod i gyfarfod mewn llwyn o goed ychydig oddiar nant yr afon Wy, a rhwng y ddwy adran o'r fyddin Gymreig. Ond y mae pob rheswm i gasglu fod y cynllun wedi ei ddatguddio gan yr arglwyddi hynny oeddynt i gyfarfod Llewelyn. Yn mhen ychydig fynydau wedi iddo adael Pont Orewyn, ymosodwyd ar ei gwarchlu gan John Gifford a Syr Edmwnd Mortimer, gyda byddin gref, rhan fawr o ba un oeddynt ŵyr Buallt. O'r llwyn coed hwnnw clybu yswain y Tywysog sŵn ymladd tua'r bont, a dywedodd wrth ei arglwydd fod y Saeson yn ymosod ar y gwarchlu. "A ydynt yn dal eu tir," ebai ef. "Ydynt." Yna ni syflaf oddiyma pe byddai holl Loegr yr ochr draw;" a diamheu ei fod yn gywir ei farn am ei ddyogelwch oni buasai fod bradwr yn mysg y gelynion. Y fintai a amddiffynnodd y bont gyda dewrder dihafal; a'r Saeson yn gweled nad allasent ei chymeryd, un o'r enw Helias Walwyn, brodor o'r ardal, a ddangosodd iddynt ryd ar yr afon ychydig islaw y bont, yr hwn, er ei fod yn beryglus, a groesasant. Yr oedd yn anmhosibl i'r fintai fechan ddal ymosodiad yn ôl a blaen; o ganlyniad, gadawsant y lle a ffoisant.

Bellach nid oedd dim rhwng Llywelyn a'i elynion, ac yr oeddynt yn eithaf hysbys, trwy yr arglwyddi bradychus, pa le y deuent o hyd iddo. Amgylchynasant y llwyn coed, a thra yr amcanai Llewelyn encilio at gorph ei fyddin i Mochryd, daeth swyddog Seisnig, o'r enw Adam de Ffrancon, yn mlaen ac a'i trywanodd ef â gwaywffon, heb feddwl unwaith nad un o osgorddlu y Tywysog ydoedd. Eithr Ffrancon wedi chwilio y llwyn, a chael nad oedd neb ynddo, a ddychwelodd at yr archolledig ac a'i cafodd yn prysur farw, a neb gydag ef ond ei gyfaill yr yswain. Yn mhen ychydig fynydau, bu farw. Dechreuwyd archwilio ei gorph, a chafwyd amryw lythyrau pwysig yn ei feddiant a'i sêl dywysogaidd. Yna Ffrancon a dorrodd ben y Tywysog, ac a'i danfonodd i'r brenin yn Rhuddlan, yr hwn dderbyniodd yr anrheg waedlyd gyda llawenydd mawr, ac a'i danfonodd i Lundain i'w arddangos yn gyhoeddus, lle y coronwyd ef a choron o fedw er dirmyg ar y darogan y byddai i Llewelyn wisgo coron yn ninas Llundain. Am y corph, oherwydd fod y Tywysog wedi marw tan ysgymundod, gellir tybied bron i sicrwydd ei fod wedi ei gladdu, mewn croesffordd ar lain o dir a elwir Cefn y Bedd, tua thair milldir o Buallt. Yn ôl yr hen ddefodau Cymreig mewn croesffyrdd y cleddid drwgweithredwyr, ac yr oedd