Tudalen:Cymru fu.djvu/304

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o hawl ar y wlad hono ond trwy drech a thrais a rhaib anniwall, a dyna o'ch blaen fost wedi ymgnawdoli. Yr oedd fel Gwyddel am ryfel, os na cha'i un gyfiawn efe a godai un anghyfiawn — rhyfelasai gyda'i dad a'i fam, ei wraig a'i nain, a phawb a phobpeth, cyn y buasai byw'n heddychol. Gallasai Lloegr a Scotland, Ffrainc a Phalestina, gyddystio â Chymru mai dyn gwaedlyd ydoedd. Dyn nad oedd byth mewn heddwch ag ef ei hun, ond pan mewn rhyfel ag eraill, os na wylodd ar lan y mor Indiaidd, os na threiddiodd gymyl bol-dduon bwlch St. Bernard, ac os na sathrodd ar adfeilion y Colisseum, dim diolch iddo— byr oedd ei allu ac nid ei ewyllys. Ni fwriadodd ddaioni erioed; gwnaeth ddaioni efallai, ond yn hollol anfwriadol. Dywed llawer, a'r Saeson yn enwedig, mai daioni oedd uno Cymru a Lloegr, os felly, ac i Iorwerth fod yn foddion i ddwyn hyny oddiamgylch, mewn camgymeriad y gwnaed y daioni, ac uchelgeisiaeth, rhaib, at ragor o awdurdod, a chasineb greddfol at y Cymry, oeddynt ei amcanion mawr, yn ngheseiliau pa rai y cafwyd y daioni, os cafwyd ef hefyd. Ei uchelgais a'i gwnai yn rhyfelgar, a'i ryfelgarwch a'i gwnai yn greulawn, neu yn ffals, fel y byddai amgylchiadau yn galw. Boddio ei nwyd o uchelgais oedd prif bleser ei fywyd; a than effaith y boddineb hwnw troid gwaedd câd yn beroriaeth yn ei glustiau, a thrueni rhyfel yn olygfa baradwysaidd i'w lygaid.

Nid oedd Llewelyn ychwaith yn ddifai. Cyfiawn gyhuddir ef o greulonder dialw-amdano tuag at ei frawd Owen, yr hwn a garcharodd efe am yspaid hirfaith yn nghastell Padarn. Mewn gallu milwrol nid oedd i' w gydmaru am fynyd gyda'i wrthymgeisydd Iorwerth. Fel cadlywydd yr oeddyn ddiffygiol mewn rhagolwg, er engraifft, ei esgeulusdra yn darpar ar gyfer ei gydwladwyr newynog yn Eryri, pan warcheid hwynt gan y Saeson yn y flwyddyn 1277; a'i hyder anoeth yn ymddiried ei hunan yn nwylaw ei fradwyr yn nhir Buallt — ychydig o wyliadwriaeth a'i lluddiasai i ymadael ag Eryri yn y cyfwng peryglus hwnw. Llinell euraidd ei gymeriad ef oedd ei ffyddlondeb i'w egwyddorion, a'r penaf o'i egwyddorion oedd ei gariad disigl at ei wlad a'i genedl. Ni cheir ond un bwlch yn y linell hon, a hyny pan ddiraddiodd ei hunan yn Worcester er mwyn Eleanor de Montforte. Ei wladgarwch oedd arweinydd ei holl symudiadau; yr oedd ei holl egwyddorion yn eraill yn is-wasanaethgar i hwn, a than ei llywodraeth y cyflawnodd efe lawer o amryfuseddau a beiau ei fywyd. Heddwch ei wlad a barodd iddo garcharu ei frawd Owen, llwyddiant ei