Tudalen:Cymru fu.djvu/305

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hachos oedd ganddo mewn golwg wrth ymgyngreirio gyda Simon de Montforte; ac ar neges tros ei gydwladwyr yr ydoedd yn Muallt pan blanwyd y waywffon farwol yn ei fynwes. Bwriadai ddaioni, ac os methodd ei gyflawni bob amser, nid oedd ganddo ef mo'r help am hyny. Dyna Llewelyn, yr olaf a'r goraf ar lawer o ystynaethau o'r tywysogion fuont yn llawio hen deyrnwialen Frutanaidd y Dywysogaeth am saith can' mlynedd, canys yn ei angau ef ysgubwyd olion olaf ei hannibyniaeth, dilewyd ei chyfreithiau, ac unwyd hi a theyrnas gyfoethog a galluog Prydain Fawr. Pe rhyfelasai Llewelyn ar feusydd Marathon, neu yn Nghulfor Thermopylce. diau y canmolasid ei ymdrech am gyfiawnder i'w gydwladwyr a'i wrhydri ar ddalenau'r classics. Ond dyben Iorwerth oedd dileu pob adgof a chofnod am dano. Pa fodd bynag, dagrau ei gyd- wladwyr a wlychasant ei fedd, beirdd ei wlad a ganasant ei glodydd, a galerid ei dynged gan bawb a edmygent ddewrder, ffyddlondeb, a chalon gywir a gwladgaroi.

TRADDODIADAU YN EI GYLCH.

Dywed Traddodiad ddarfod i Llewelyn, tra yn gorwedd yn ei waed, ddanfon ei yswain i grefydd-dŷ gerllaw, i ymofyn mynach; ac idd ar gyffes o'i bechodau dderbyn y Sacrament o law y gŵr crefyddol, trwy yr hyn y rhyddheid ef oddiwrth ysgymundod a melldith Eglwys Rhufain. Defnyddiwyd y traddodiad, gan gyfeillion y diweddar Dywysog, fel rheswm tros gael caniatad i gladdu y marw mewn tir cysegredig. Matilda Longspee, larlles Salisbury ac wyres Llewelyn ab Iorwerth, a Mortimer ei hun, a ddeisyfasant yn daer am hyn o hynawsedd tuag at yr hyn oedd farwol o'u cyfathrachwr, eithr gwrthodwyd hyd yn nod y ffafr fechan hon.

Y mae Traddodiad arall, ddarfodiLlewelyn gael rhybydd o ddyfodiad y Saeson, ac iddo amcanu ffoi rhagddynt, achan fod eira ar y ddaear ar y pryd, iddo droi i efail gôf o'r enw Madawc Goch Min Mawr, a hwnw a droes bedolau eifarch er mwyn twyllo ei ymlidwyr. A phan ddaeth yr ymlidwyr hyd at efail y gôf hwnw, Madawc a fradwrus ddatguddiodd iddynt gyfrinach y pedolau, trwy yr hyn y daliwyd ac y llofruddiwyd y Tywysog.

Arferai hen bobl Buallt adrodd y traddodiad canlynol gyda llawn sicrwydd yn ei gywirdeb. Ddarfod i Llewelyn pan yn ymguddio yn y llwyn coed hwnw geisio ymlechu mewn twmpath o fanadl, a chan i'r banadl fethu ei guddio rhag ei elynion, iddo regi y cyfryw goed fel na thyfodd