Tudalen:Cymru fu.djvu/308

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plwyfolion parchus a chyfrifol gerllaw trwy roddi tri thinc o honni ei hun, a hynny yn nghefn trymaf y nos. Hynodid cloch Blaenporth, yn Ngheredigion, yn arbenigol yn hyn o beth. (Brython, cyf.v. tudal. 225). Rhyw ddiaspad prudd, prudd, prudd, oedd y tri chlul hynny, digon a pheri i ffŵl haf dori ei galon a marw o'r melancoli.

3. Cwn Annwn, neu Gwn Bendith y Mamau. Barna y Parch. O. Jones, Manchester, mai llygriad o gwn lledrithiog Pwyll Pendaran Dyfed, y sonnir am danynt yn y Mabinogion Cymreig, ydynt y Cwn Annwn. Ychydig a wyddis am danynt yn y cymeriad o Rybuddion. Dywed y Parch. Edmwnt Jones o'r Transh, (dyna'r dyn mwyaf ysprydol y cawsom ni erioed y fraint o ddarllen ei waith; y mae Swedenborg yn anhraethol islaw iddo) am y Cwn hyn, mai" Po agosaf i ddyn y byddont, lleiaf a fydd eu sŵn; a pho bellaf, uwchaf a fydd, gan ymchwyddo weithiau fel udfa bytheuad, neu waedgi mawr." Llafar Gwlad, a dyma'r safon ar hynciau o'r natur yma, a ddywed fod eu hudiadau yn annhraethadwy grasach a chrasach nag oernadau bleiddiaid rheibus. Bydd Vox populi yn son am danynt, wrth y tân mawn ar hirnos gauaf, fel haid o gwn duon bychain tan lywyddiaeth rhyw lymangi mawr cymaint ag eidion pum' mlwydd. Udent fynychaf mewn croesffyrdd a'r mannau mwyaf cyhoeddus. Yr oedd yn beryglus erchyll sefyll ar eu llwybr, gan y brathent yn gynddeiriog, ac yr oedd eu brathiadau yn angheuol. Weithiau ymgynullent yn un haid gethernus at fedd yr hwn y rhagflaenent ei farwolaeth, ac wedi udo a chwynfan yn y lle am gryn amser ymsuddent i'r ddaear, ac nis gwelid hwy mwy. A dyna Gwn Annwn.

4. Ond yr arch-ddrychiolaeth oedd yr hon a elwid y Teulu. Pobl Dyfed bron yn unig oeddynt wedi eu breintio a llygaid i ganfod hon hefyd. Darlun ysprydol cyflawn ydoedd o'r angladd a gymerai le. Pawb a phopeth yn ysprydol yn ei briodol le a'i swydd. Yspryd ceffyl yn tynnu yspryd hearse, yn mha un yr oedd yspryd arch ac yspryd y marw: ac yn caul yn ysprydion anmherffeithiedig y cymydogion wedi bod yn bwyta yn helaeth cyn cychwyn o yspryd y bara a'r caws, ac yfed yn helaeth o yspryd y cwrw brwd. Ac wedi i yspryd yr offeiriad ac yspryd y clochydd ddarllen yspryd y gwasanaeth, ac i'r holl ysprydion gydganu salm ueu emyn, a rhoddi yspryd y corph yn yspryd y bedd, a'i briddo gydag yspryd o raw, yr holl ysprydion a ddychwelent i'w cartrefleoedd. Ni fynychid y rhybudd hwn, gan ei fod braidd yn drafferthus i ysprydion