Tudalen:Cymru fu.djvu/309

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned trwy'r ddefod fwy nag unwaith. Sonid llawer am gosb y sawl trwy ddamwain neu anystyriaeth a ymyrrent a'r Teulu ar eu taith; ond gan fod y Teulu wedi marw ni byddai'r cyfryw hanesion o unrhyw wasanaeth i'r oes hon.

5. Y Gyhiraeth. Nid drychiolaeth mo'r rhybudd hwn, eithr clywolaeth. Rhyw ddolef gras annaturiol ydoedd yn gwibio tua'r awyr yn nyfnder nos; fynychaf, uwchben croesffyrdd, a'r llwybrau y dygid y marw ar hyd-ddynt. Byddai'r cryfaf yn delwi wrth ei sŵn, y meddw yn sobri, a'r tyngwr yn syrthio ar ei liniau i weddïo. Y mae pob lle i gredu nad ydyw'r Gyrhiraeth wedi ymadael â Chymru hyd y dydd hwn, ond yn aderyn y ceir ef yn bresennol wrth yr enw Coblin y coed (Woodpecker).

Chwanegwn y rhybuddion canlynol, y rhai, os na chredir hwynt, eto ydynt ar flaen tafod y Wlad hyd yn nod y dydd hwn: -

6. Dallhuan yn ysgrechian.

7. Ci yn udo.

8. Aderyn y corph yn ymguro yn erbyn ystafell wely y claf, a dyna bobpeth trosodd gyda'r truan hwnnw. Yn ôl llafar Gwlad, aderyn rhyfedd oedd hwn heb blu nac adenydd, yn crwydro drwy'r ffurfafen yn y dull mwyaf cyfrin, ac yn byw, ond pan ar negesau rhybuddiol i'r byd hwn, yn ngwlad Hud a lledrith.

9. Pren afalau yn blodeuo'n anamserol, - arwydd sicr o farwolaeth ei berchennog yn ystody tymor hwnw ydoedd.

10. Ceiliog yn nhrymder nos yn canu yn ei glwyd.

11. Iâr yn cannu fel ceiliog.

12. Breuddwydio eich bod yn mhriodas rhyw gyfaill. Sicrhai hynny y byddwch yn fuan yn ei gynhebrwng.

13. Gauaf glas, mynwent fras.

Pe gallesid rhoddi pwys ar y rhagargoelion hyn, diau mai pobl hapus fuasai'r hen Gymry, trwy y gallasent fyw mewn rhusedd eu gwala hyd oni ddaethai y "rhybudd," ac yna iawn dreulio eu hamser gweddill. Ond am danynt oll bron gellir dywedyd mai dychmygion mynachod yr oesoedd tywyll oeddynt wedi eu dyfeisio o bwrpas er cyffroi dynion i ystyriaeth o'u camweddau, a byrdra eu heinioes.