Tudalen:Cymru fu.djvu/310

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyw fath gadffwl gwlad yr ystyrid Rhys, ac, fel ffyliaid yn gyffredin yn gall a chyfrwys tros ben; ac yn crwydro hyd y wlad heb yn unman gartref, a'i Grwth (math o fiddle) gydag ef, o dŷ y bonheddwr hwn i dŷ y bardd draw, o'r dafarn hon i'r dafarn acw, weithiau ar ei fferau ei hun a thro arall ar yspryd o hen geffyl y buasai'n ffitiach ei fod yn y barcdy ers blynyddoedd. Ond byddai drws agored i Rhys yn mhob man; yr oedd ei hyfder gwatwarus yn lladd pob gelyniaeth, a gorfodid y costowcaf ei dymer i ddweyd fel y dywed mam am ei phlentyn, "Mae'n ân mhosibl edrych yn ddig arno." Gymaint oedd yr alwad am ei wasanaeth ar adegau fel y byddai beirdd yn cyfansoddi rhimynnau hirion o gywyddau i "Ofyn am ei fenthyg." Cyfansoddodd William Cynwal un felly ar gais Elis Prys o Blasiolyn, i ofyn Rhys gan Sion Tudur o Wigwair; a gwae i'r Crythor byth fyned tan sylw eu hawen, Nid oedd derfyn ar ei ddawn ymadrodd, a byddai yn

Siarad yn serth drafferthus
Hwff, haf, bwff, baff, rwff raff, Rys.

Y mae dyn yn sadio ac yn sobri cryn lawer fel yr ymestynna cysgodau'r hwyr o'i gylch, ond yn ôl Sion Tudur yr oedd Rhys yn eithriad i'r rheol hon: -

Yn neuben ei fyd yn ebol — diriad,
Yn aderyn lledffol,
Yn ifanc, ffiaidd lanc ffôl;
Ac yn hen yn gynhwynol.

Ac -wedi marw a chladdu Rhys Grythor ni pheidiodd ef a bod o ddifyrrwch mawr i werin bobl Gwynedd. Ymddifyrant yn fynych wrth adrodd y chwedlau canlynol a'r cyffelyb am dano: - Rhys a ddamweiniodd fod ar noson yn Mettws Abergele, yn canu i foneddigion; ac a hwy yn nghanol ei digrifwch deuai i mewn yno un Thomas Lewis, o Lanfachraeth yn Môn, gŵr o atebion parod tebyg i Rhys. Wedi myned o honynt yn gydnabyddus o gyneddfau eu gilydd, drwy ymryson crasineb, ebai Rhys, "Pebuasai fy nhad erioed ar ei ymdaith yn Mon, dywedaswn dy fod ti yn frawd imi." "O," ebai Thomas, "nid anhaws inni fod yn frodyr er hynny, canys byddai fy nhad i yn arferol a dyfod i borthmona i'r wlad hon, ac efallai iddo daro wrth dy fam di." A dyna i Rhys slap yn ei fawd. Un ffraeth ei dafod oedd y gŵr hwn o Lanfachraeth. Nid oedd wasanaeth yn eglwys ei blwyf un tro, ac yntau a aeth i Fangor