Tudalen:Cymru fu.djvu/311

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o bwrpas i achwyn wrth yr Esgob o'r herwydd, ac erfyn arno gymeryd ymaith y pwlpud, gan ei fod yn beth trwsgl diddaioni. A'r Esgob gan ddeall ei feddwl, a ddywed y gyrrai ef bregethwr iddynt. A'r Sul cyntaf y deuai, ac wrth esgyn i'r pwlpud, o fod y llawr yn gnyciog ac anwastad, tripiodd y pregethwr. Yna y dywedai Thomas, "Cymerwch ofal, syr, canys y mae ef yn wyllt iawn; ni farchogwyd mono ers blwyddyn. "Yna'r offeiriad a bregethodd yn Seisnig iddynt, ac wedi dyfod allan o'r eglwys, cyfarch gwell a wnâi y gŵr parchedig i Thomas, a gofyn iddo pa fodd yr hoffai ei bregeth; yntau a atebodd, "Yn wir mi a'i tebygwn i iâr yn magu cywion hwyaid."

Nod saethau a direidi Rhys bron bob amser oeddynt ei gyfeillion y tafarnwyr. Un tro bu yn bwyta ac yn diota mewn gwesty yn Nyffryn Clwyd am fis; ac am yspaid, mawr fyddai'r cyrchu at gwrw'r tafarnwr, er mwyn cael gweled Rhys. Tra y cymerai hyn le, yr oedd iddo groesaw mawr gan y publican a'i deulu; a dyna lle byddai'r Crythor yn chwareu nes llawenhau pob calon; ond y bobl a flinasant toc ar y ddiod sur, yn hytrach nag ar gwmnïaeth Rhys. Ac o hynny, chwerwodd tymer y tafarnwr cribddeilgar, a dechreuodd godi yn ddrud ar Rhys am ei fwyd a'i ddiod; ac ni chymerth yntau arno nad eithaf boddlon ydoedd i dalu. Siaradai, yfai, gwawdiai, fel arfer. "Wyddoch chwi beth," ebai ef wrth ei westywr un diwrnod, "y mae gan i ddyfais i groywi diod sur. "Dyna'r very peth oedd gen innau eisio. "Punt am dani?" ebai Rhys. "Boddlon. "Wel, fy nyfais ydyw rhoddi rhaff wair un-darn o gylch y baril cwrw bedwar tro, gan orchuddio'r baril bob tro, a chroywa'r ddiod suraf yn y wlad mewn dwy awr. " Awd i wneud y rhaff wair - y publican yn un pen iddi yn gollwng y gwair, a'r pechadur yn y pen arall yn troi y droell; a'r dyledwr a'r gofynnwr yn myned bellach, bellach, oddiwrth eu gilydd o hyd; a Rhys tan edrych yn sobr anwedd, yn troi ac yn troi nes y trodd o amgylch congl rhyw adeilad. Yna rhoddodd geiniog i hogyn bychan a safai gerllaw am droi yn ei le - a ffwrdd ag ef ymaith, tan ddywedyd, "Nid twyll twyllo twyllwr," a gadael y cwrw gan sured ag erioed, a thymer y gofynnwr yn lled debyg iddo, ac nid anrhydeddodd y Crythor y lle hwnnw mwyach â'i bresenoldeb.

Dro arall, Rhys mewn tafarndy bychan yn Môn, yn gofyn am lasiad o gwrw, a gwelai nad oedd nemawr ddim yn y gwydr o'i flaen ond dwr. "Rhoswch chwi," ebai ef, gan gymeryd y gwydr i'w law, "beth ydyw enw'r afon yna