Tudalen:Cymru fu.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sy'n myn'd heibio'r tŷ hwn ? Chofiwn i yn fyw myw, ac y mae ar flaen fy nhafod i hefyd;" a chyda'r gair cymerth lwnc o'r ddiod. Bron na laddodd efe ŵr y tŷ gyda'r ergyd. Crybwyllasom y byddai ef weithiau ar ei geffyl. Ceffylau erchyll o deneuon fyddent ei geffylau, nes peri i lawer synu sut na holltasai yn ddau wrth eu marchogaeth. Anrhegion fyddent gan ryw foneddig neu gilydd i Rys, wedi iddynt dori eu gwynt, neu fod yn rhy hen i weithio. Ar un o'r bwystfilod hagr hyn, yr aeth ef un diwrnod i ffair Nefyn, a dodes ef mewn ystabl yn muarth rhyw dafarndy; yna aeth i rodio hyd y dref. Yn ei absenoldeb, daeth tri o grach-foneddwyr i'r buarth hwnw, hwythau hefyd ar feirch, y rhai a ddodwyd yn yr un ystabl â cheffyl Rhys, ar ba un yr edrychasant gyda gradd helaeth o syndod a digrifwch. “Pwy biau'r rinoseros hwn?” ebynt hwy wrth yr hostler. "Rhys Grythor," oedd yr ateb. Ac yna direidus gynllwynasant alanas ar y rinoserus, chwedl hwythau. Torasant ymaith ei fwng, a blew ei gynffon, ei amrantau, a'i glustiau, nes peri i'r hwn oedd hyll gynt yn awr yn edrych yn saith hyllach; a mawr oedd eu digrifwch a'u llawenydd oblegyd eu direidwaith. Yna aethant hwythau ymaith, a dychwelodd Rhys i'r ystabl. Holo!” ebai ef, “pwy wnaeth yr anmharch hwn ar fy Ngharnwenan (canys dyna'r enw a roddai ar ei feirch bob amser er cof am farch yr enwog Arthur) ?” “Y bonedd- wyr biau y ceffylau hyn," ebai'r hostler. “Mi a wnaf o'r goreu â hwynt," ebai ef ynddo ei hun; a chymerydei gyllell a rhwygo safnau meirch y crach-foneddigion a wnaeth Rhys. Ar hyn hwythau a ddaethant yn ol, a dechreu edliw a gwatwar i Rhys ei farch anffurfiol a diolwg a wnaethant. Yn mh'le y cefaist ti yr harddbeth hwn, Rhys?” ebai un, "'Rwyt yn rhoi gormod o fwyar duon iddo," ebai'r ail ; “Y mae pobl Caer wedi myned a'i gig oddiarno i'w werthu yn lle cig eidion, a'i rawn i wneud perwigau i'r merched,” ebai'r trydydd. Gwrandawai Rhys ar ei crasder g yda gwen gyfrwys nas gallasent hwy mo’i ddeall sut yn y byd Wel, mae yn ddigrif, mae yn ysmala," ebai'r tri ar unwaith. Ydyw," ebai Rhys, mae'ch ceffylau chwi yna wedi rhwygo eucegau wrth chwerthin am ei ben!”

Llawer o bethau cyffelyb ellid ddweyd am y Crythor, ond digon hyn i brofi ei arabedd a'i ffraethder. Yn Eisteddfod fawr Caerwys 1568, graddiwyd ef yn Ddysgybl Cerdd Dafod. Diamheu ei fod o gyneddfau cryfion annghyffredin, ond, ysywaeth fel llawer o feib talentog Cymru, o'i flaen ac o'i ol, yn claddu ei ddefnyddioldeb yn meddau'r blys.