Tudalen:Cymru fu.djvu/313

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BRANWEN FERCH LLYR.

(Hen Fabinogi Gymreig.)

BENDIGAID-FRAN ab Llyr oedd frenin coronog ar yr Ynys hon, ac ardderchogid ef â choron Llundain. Ac un prydnawngwaith yr oedd efe yn Harddlech, yn Ardudwy, yn ei lys: ac eistedd yr ydoedd ar graig Harddlech uwchben y weilgi, a Manawyddan ab Llyr, ei frawd gydag ef, a dau frawd arall un-fam iddo-Nissyen ac Efnissyen, a phendefigion eraill gweddaidd o gylch brenin. Y ddau frawd un-fam ag ef meibion oeddynt i Eurosswydd a'i fam ef Penardin ferch Peli ab Manogan. Y cyntaf o'r gwyr hyn gwas da ydoedd, ef a barai dangnefedd rhwng ei deulu pan y byddant lidiocaf, sef oedd hwnw Nissyen; a'r llall a barai ymladd rhwng ei ddau frawd pan y byddent heddychaf. Ac fel yr eisteddent felly, gwelent dair llong ar ddeg yn dyfod o ddeau Iwerddon, ac y cyflym gyrchu tuag atynt, -y gwynt o'u holau yn eu nesau yn ebrwydd. "Mi a welaf longau draw," meddai y brenin "yn dyfod yn brysur i'r tir; erchwch i wyr y llys wisgaw am danynt a myned i edrych pa amcan sydd ganddynt." Felly y gwyr a ymwisgasant, ac a aethant i waered atynt, ac wedi gweled y llongau, diau oedd ganddynt nas gwelsant erioed longau cywreiniach eu hansawdd na hwynt. Hwyliau teg a gweddus o bali oedd arnynt. Ac wele un o'r llongau yn rhagflaenu y lleill, ac uwchlaw ei bwrdd gwelent ddyrchafu tarian, a swch y darian tuag i fynu yn arwydd tangnefedd. A'r gwyr a nesasant atynt fel y gallent glywed eu gilydd. Yna bwrw badau allan a wnaethant, a dyfod i dir, a chyfarch gwell i'r brenin. Y brenin a'u clybu o'r lle yr ydoedd, ar graig uchel uwch eu pen: "Nawdd Duw a chroesaw i chwi," ebai y brenin, "eiddo pwy ydynt y llongau hyn? a phwy ydyw y llywydd arnynt?" Arglwydd," ebynt hwythau, y mae Matholwch Wyddel yma, a'i eiddo ef ydynt." "Beth," ebai y brenin, "a fyn efe? a fyn efe ddyfod i dir?" "Na fyn, arglwydd," ebynt hwythau,"neges sydd ganddo â thi; ac ni lania efe oni cheiff ei neges." "Pa ryw neges sydd iddo!" ebai y brenin, "Mynu ymgyfathrachu a thi, arglwydd:" meddent hwythau, "I erchi Branwen ferch Llyr y daeth efe ; ac os da yn dy olwg, efe a fyn rwymo Ynys y Cedyrn gydag Iwerddon, fel y byddont cadarnach". "Ie", ebai X