Tudalen:Cymru fu.djvu/314

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yntau, "deued i dir, a chynghor a gymerwn ninau." A dygwyd yr ateb yna at Matholwch, ac ebai, "Mi a af yn llawen." Efe a ddaeth i dir, a derbyniwyd ef yn groesawus, allawenydd mawr fuyn y llys y noson hono, rhwng ei wyr ef a gwyr y llys. Dranoeth cymerwyd cynghor, pryd y penderfynwyd rhoddi Branwen i Fatholwch; a Branwen oedd un o dair brif rian yr Ynys,—tecaf morwyn yn y byd oedd.

Neillduwyd Aberffraw fel man yr oedd hi i ddyfod yn briodferch iddo; ac aethant tuag yno,—Matholwch a'i luoedd yn eu llongau a Bendigaid-Fran a'i luoedd yntau ar dir hyd oni ddaethant i Aberffraw. Ac yn Aberffraw dechreuwyd y wledd, ac yr eisteddasant. Ac fel hyn yr eisteddent: Brenin Ynys y Cedyrn a Manawyddan ab Llyr ar y naill ochr iddo, a Matholwch ar y llall, ac wrth ei ystlys ef yr eisteddai Branwen. Nid mewn tŷ yr oeddynt, eithr mewn pebyll; nid oedd dy allai gynwys Bendigaid-Fran. A'r gyfeddach a ddechreuodd, a gloddesta ac ymddiddan y buont hyd oni welsant mai melysach hûn na gloddest; yna cysgu a wnaethant; a'r nos hono y priodwyd Matholwch a Branwen.

Tranoeth y cyfodasant, a gwyr a swyddwyr y llys a ddechreuasant drefnu a rhanu eu ceffylau, a'u rhanu a wnaethant yn mhob cyfair hyd at y môr.

Ac un diwrnod, wele Efnissyen, y gŵr anheddychol a grybwyllwyd uchod, yn dyfod i'r fan yr oedd meirch Matholwch, ac yn gofyn pwy bioedd y merch. "Meirch Matholwch, brenin yr Iwerddon, a briodes Branwen dy chwaer, ei feirch ef ydyw y rhai hyn." "Ac Felly y gwnaethant hwy a morwyn cystal a hono!—a chwaer a mi —ei rhoddi heb fy nghenad, ni allent daflu mwy o ddirmyg arnaf," ebai ef. Yna efe a wanodd y meirch, ac a dorodd eu gweflau wrth eu danedd, a'u clustiau wrth eu penau, a'r rhawn wrth eu cefnau, ac os cai graffar eu hamrantau efe a'u torodd wrth yr esgyrn, ac efea'u hanffurfiodd felly hyd onid oeddynt hollol ddiwerth.

Dygwyd yr hanes hwn at Matholwch a dywedwyd wrtho fod ei feirch wedi eu hanffurfio, a'u llygru hyd nad ellid da o honynt. "Ie," ebai un, "dy waradwyddo wnaethpwyd, a dyna yr amcan." "Os dyna yr amcan, y mae yn syn genyf pa fodd y rhoddasant imi forwyn mor urddasol ac mor anwyl gan ei chenedl a Branwen!" "Arglwydd," ebai un arall, "ti a weli pa fodd y mae, ac nid oes iti i'w wneuthur ond cyrchu i'th longau." Ac ar hyny cyrchu tua'i longau a wnaeth efe.