Tudalen:Cymru fu.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfaill yn ymddangos mor llawen ag o'r blaen, a thybiai mai bychander yr iawn a roddwyd iddo a barai ei fod yn athrist. "Ha! unben," ebai Bendigaid-Fran, "nid ydwyt mor llawen heno âg oeddit y noson cynt. Os ydyw hyn o herwydd bychander dy iawn, ychwanegaf ati yr hyn a fyddo da yn dy olwg, ac yfory telir iti y ceffylau." "Arglwydd," ebai yntau, Duw a dalo iti." "Mi a chwanegaf dy iawn befyd," ebai Bendigaid-Fran, “rhoddaf bair i ti, cyneddf yr hwn ydyw, os lleddir un o'th wyr heddyw a'i fwrw i'r pair hwn, erbyn tranoeth efe a fydd cyn iached ag y bu erioed, eithr efe a gyll ei barabl—nid all efe siarad. Ac efe a ddiolchodd yn fawr am hyny, a llawen ydoedd o'r achos.

Tranoeth y bore talwyd y meirch i Fatholwch hyd y cyrhaeddodd y meirch dofion. Yna cyrchasant i gwmwd arall a rhoddasant ebolion iddo hyd oni thalwyd y nifer oll, a galwyd y cwmwd hwnw o hyny allan Talebolion.

Yr ail noson eisteddasant yn nghyd. "Arglwydd," ebai Matholwch, "pa le y cefaist y pair a roddaist imi ?" "Cefais ef gan ŵr a fu yn dy wlad di, ac ni fynwn ei roddi i neb ond i un o'r wlad hono." "Pwy oedd hwnw ?" ebai ef. "Llassar Llaesgyfnewid, a ddaeth i'r wlad hon o'r Iwerddon, a chydag ef Cymideu Cymeinfoll ei wraig, y rhai a ddiangasant o'r Ty Haiarn yn Iwerddon, pan wnaed y lle yn boeth wynias o'u hamgylch, ac y ffoisant oddiyno. Y mae yn syn genyf na wyddost yr hanes." "Mi a wn ychydig yn ei gylch, a chymaint ag a wn I hynya hysbysaf iti. Un diwrnod yr oeddwn yn hela ar fryn yn mhen llyn yn Iwerddon, a elwir Llyn y Pair, ac mi a welwn wr melyngoch mawr yn dyfod o'r llyn a pair ar ei gefn. A gŵr helbulus yr olwg arno ydoedd, ac erchyll ei wedd: gwraig a'i canlynai, ac os oedd ef yn fawr, mwy ddwywaith na ef oedd y wraig. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyfarch gwell inni. Ebe fi, 'pa le y cyrchwch?' Ebai yntau, 'Hyn ydyw achos ein cyrchiad. Yn mhen mis a phythegnos yr esgora y wraig hon. A'r mab a aner y pryd hyny a fydd ryfelwr llawn arfog.' Felly cymerais hwynt, a buont gyda fi am flwyddyn, a'r flwyddyn hono cefais hwynt yn ddiwarafun. Eithr o hyny allan dechreuwyd grignach rhagddynt, canys o ddechreuad y pedwerydd mis y gwnaethant eu hunain yn gas gan y bobl, trwy ei sarhadau yn y tir, a thrwy afionyddu a blino pendefigion a phendefigesau y wlad. O hyny allan fy neiliaid a atolygasant arnaf ymadael a hwynt, ac y rhoddasant ddewis imi, ai fy neiliaid ai hwynt. Minau a ymgynghorais pa beth wnelid