Tudalen:Cymru fu.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun gael y frenhiniaeth; weithian cymeraf gynghor am eich cenadwri chwi. O hyn hyd hyny dyna yr unig ateb a gewch genyf." "Ie," ebynt hwythau, "y genad oreu a gawn ni i ti, a ddygwn ni atat, ac aros dithau ein cenad ni" “Arosaf," ebai ef, a deuwch yn ebrwydd."

Y cenadau ddychwelasant at Matholwch. "Arglwydd," ebynt hwy "parotoa genad well i Fendigaid-fran ni wrandawai ef ar y genad a ddygasom ni ato. "Ha wyr," ebai Matholwch, "beth ydyw eich cynghor chwi?" "Arglwydd," ebynt hwy, "nid oes it' gyngor namyn un. Ni bu efe erioed mewn tý; gan hyny gwna dŷ i'w gynwys ef a gwŷr Ynys y Cedyrn yn y naill barth, a thithau a'th lu yn y parth arall o hono, a dyro dy frenhiniaeth yn ei law, a thal warogaeth iddo. Ac o herwydd anrhydedd gwneuthur y tŷ, gan na chafodd erioed dŷ i'w gynwys ynddo, efe a ymheddycha â thi." A'r cenadau a ddaethant a'r genadwri yna at Fendigaid-fran.

Ac efe a gymerth gynghor, a phenderfynwyd derbyn y genad, a thrwy gynghor Branwen y bu hyn oll rhag i'r wlad gael ei dinystrio. A'r cytundeb hwn a gywiriwyd, —tŷ mawr a chryf a adeiladwyd. Eithr y Gwyddelod a gynllwynasant ystryw, sef dodi gwanas (bracket)o bobtui'r can' colofn ag oeddynt yn y tŷ, a dodi bol croen ar bob gwanas, a gwr arfog yn mhob un o honynt. Yna Efnissyen a ddaeth i mewn o flaen lluoedd Ynys y Cedyrn, ac a edrychodd olygon gorwyllt ac annrhugarog ar hyd y tŷ, a chanfyddodd y boliau croen wrth y pyst. "Beth sydd yn y boly hwn?" ebai ef wrth un o'r Gwyddelod. "Blawd, enaid,” oedd yr ateb. Ac Efnissyen a'u teimlodd hyd oni ddaeth at ben y dyn, ac yna gwasgodd y pen nes y teimlodd ei fysedd yn cyfarfod yn yr ymenydd trwy yr esgyrn. Gadawodd hwnw a rhoddodd ei law ar y nesaf, a gofynodd pa beth oedd ynddo. "Blawd,” ebai y Gwyddel. A'r un modd y gwnaeth efe a phawb o honynt, hyd nad adaw- odd o'r ddau-canwr namyn un yn fyw, a phan ddaeth ato ef gofynodd pa beth ydoedd ynddo. “Blawd, enaid," ebai y Gwyddel. Yna efe a deimlodd hyd oni chafodd ei ben, a gwasgodd hwnw fel y rhai eraill; eithr a glywai arfau am ben hwnw, ac nis gadawodd ef nes ei ladd. Yna canodd yr englyn hwn:-

Y sydd yn y boly hwn amryw flawd
Ceimet, cynifeit, disgymfeit,
Yn trin rhac cytwyr cat barawt,"