Tudalen:Cymru fu.djvu/321

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

" There is in bag a different sort of meal,
The ready combatant, when the assault is made
By his fellow warriors, prepared for battle."

LADY CH. GUEST.

Ar hyny daeth y lluoedd i'r tŷ. Gwyr Ynys Iwerddon i'r tŷ ar y naill ochr, a gwŷr Ynys y Cedyrn ar y llall. Ac mor fuan ag yr eisteddasant yr oedd cyfundeb rhyngddynt; a rhoddwyd y frenhiniaeth i'r bachgen. Wedi cwblhau yr heddwch Bendigaid-fran a alwodd y mab ato, ac oddiwrth Bendigaid-fran y mab aeth at Manawyddan; a phawb ar ei gwelai oedd yn ei garu. Ac oddiwrth Fanawyddan galwyd ar y mab gan Nissyen mab Eurosswydd; ac wele y mab a aeth ato yn dirion. "Paham," ebai Efnissyen, "na ddaw fy nai fab fy chwaer ataf fi? Pe na byddai frenin yn Iwerddon da fyddai genyf yndirioni â'r mab." "Aed atat yn llawen," ebai Bendigaid-fran. A'r mab a aeth ato yn llawen. "Myn fy nghyffes i Dduw," ebai Efnissyen yn ei galon, "ni thybia y tylwyth y gyflafan a wnaf yr awrhon." Yna cyfododd a chymerodd y mab gerfydd ei draed, a chyn i neb yn y tŷ gael gafael arno bwriodd y mab yn ngwysg ei ben i'r tân poeth. Branwen pan welodd ei mab yn y tân a amcanodd hefyd neidio i'r tân o'r lle yr eisteddai rhwng ei dau frawd. Eithr Bendigaid-fran a gydiodd ynddi ag un law, ag yn ei darian a'r llall. Ac yna yr oedd pawb yn ffrystio hyd y tŷ, a thyna y trwst mwyaf a fu erioed yn yr un tŷ; a phawb oeddynt yn ymarfogi. Yna y dywed Morddwydtyllyon, "Gwern grwngwch fuwch Forddwydtyllyon," (The gadflies at Morddwyd's cow,-march gacwn buwch Morddwydtyllyon). A thra yr oeddynt yn ceisio eu harfau Bendigaid-fran a gynhaliai Branwen rhwng ei darian a'i ysgwydd. Yna y Gwyddelod a gyneuasant dân tan bair yr adeni, a bwriasant gyrff meirw i'r pair hyd onid ydoedd yn llawn, a thranoeth daeth y rhai hyn allan o hono yn rhyfelwyr cystal ag o'r blaen oddieithr nad allent lefaru. Ac Efnissyen yn gweled nad oeddynt wyr Ynys y Cedyrn yn adfywio yn un man a ddywedodd yn ei galon, "Gwae fi! imi fod yn achos yr alanas hon ar wyr Ynys y Cedyrn; a drwg im'oni cheisiaf wared rhag hyn." Ac efe a ymfwriodd i blith celanedd y Gwyddelod, a daeth dau Wyddel bonllwm (unshod) heibio iddo, ac a'i bwriasant i'r pair gan dybied mai Gwyddel ydoedd. Ac efe a ymestynodd yn y pair nes y torodd y pair yn bedwar dryli, ac yna torodd ei galon yntau.

Oherwydd hyn yr enillodd gwŷr Ynys y Cedyrn gymaint