Tudalen:Cymru fu.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag a enillasant; eithr ni fuont fuddugol gan na ddiangodd onid saith o honynt, a brathwyd Bendigaid-Fran yn ei draed a gwenwyn-waew. Y seithwyr a ddiangasant oeddynt Pryderi, Manawyddan, Gluneu Eil Taran, Taliesin, Gnawc Grudyen ab Murgel, a Heilyn ab Gwynn Hen.

Yna parodd Bendigaid-fran iddynt dori ymaith ei ben; "a chymerwch chwi y pen," ebai ef, a dygwch hyd y Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb ar Ffrainc. A chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Yn Harddlech, byddwch saith mlynedd yn gwledda, ac adar Rhianon yn canu i chwi yn y cyfamser. A bydd gystal genych gymdeithas y pen ag y bu oreu genych pan fu arnaf fi erioed. Ac yn Gwales, yn Mhenfro, y byddwch bedwar ugain mlynedd; ac oni agorwch y drws sydd a'i wyneb tua Henfelen a thua Chernyw, y pen a erys yn ddilwgr. A phan agoroch y drws hwnw nis gellwch aros yno yn hwy; cyrchwch i Lundain i gladdu y pen yn ddioedi. Felly torasant ei ben ymaith, a'r seithwyr hyn a'i dygasant trosodd; a Branwen yn wythfed gyda hwynt. Yn Aber Alaw yn Talebolion y daethant i dir, ac eistedd a wnaethant a gorphwys. A Branwen a edrychodd tuag Iwerddon a thuag Ynys y Cedyrn, ac wedi eu gweled, "Gwae fi!" ebe bi, "fy ngeni, dwy ynys a ddiffeithiwyd o'm hachos," a hi a roddodd ochenaid fawr, ac a dorodd ei chalon ar hyny. Gwnaethant iddi fedd petrual, a chladdasant hi ar lan yr Alaw.

A'r saith wyr a deithiasant tua Harddlech, gan ddwyn y pen gyda hwynt, ac fel yr elent wele lu o wragedd a phlant yn eu cyfarfod, "A oes genych newydd?" "Nac oes," ebynt hwythau, "ond fod Caswallon ab Beli wedi goresgyn Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain". "Beth ddaeth o Garadawg ab Bran a'r seith- wyr a adawyd gydag ef yn yr Ynys hon?" "Daeth Caswallon arnynt ac a laddodd y chwe gŵr, a thorodd Caradog yntau ei galon gan ofid, am weled y cleddyf yn lladd ei wyr ac nis gwypai pwy a'i llawiai. Yr oedd Caswallon wedi taflu hud trosto, fel nas gallai neb ei weled yn lladd y gwŷr, ei gleddyf yn unig ellid weled. Ni fynai Caswallon ei ladd ef gan ei fod yn nai iddo fab ei gefnder. Efe oedd y trydydd a dores ei galon gan ofid. Pendaran Dyfed oedd yn was ieuanc gyda hwynt a ddiangodd i'r coed," ebynt hwy.

Yna cyrchasant i Harddlech, a gorphwysasant, gan ddechreu bwyta ac yfed. A daeth tri aderyn gan ddecreu canu iddynt ryw gerdd, ac anfwyn oedd pob cerdd a