Tudalen:Cymru fu.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glywsant erioed wrth eu cydmaru a hi; ac er fod yr adar i'w clywed fel yn mhell oddiwrthynt eto gan amlyced oedd eu cân a phe buasent gyda hwy. Yn y wledd hon buont felly am saith mlynedd.

Ac yn mhen saith mlynedd y cychwynasant tua Gwales, yn Mhenfro; ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinaidd uwchben y weilgi, a neuadd. I'r neuadd y cyrchasant, a dau o'r drysau oeddynt yn agored, ond y trydydd yn ngauad a gwyneb hwn ydoedd tua Chernyw. "Gwel acw," ebai Manawyddan, "y drws ni ddylem ni ei agor." Treuliasant y noson hono yn ddieisiau a dyddan. Ac am yr holl fwyd a welsant yn eu gwydd, ac y clywsant am dano, nid oeddynt yn cofio dim; nac am alar o fath yn y byd. Yno y treuliasant bedwar ugain mlynedd, yn ddiarwybod iddynt erioed dreulio ysbaid mwy digrif a difyr. Nid oedd flinach ganddynt ar ddiwedd yr ysbaid nag ar ei ddechreu, ac nis gwyddai yr un o honynt pa hyd y buont yno; ac nid annifyrach ganddynt fod y pen yno na phe buasai Bendigaid-Fran gyda hwynt ei hun. Ac o herwydd y pedwar ugain mlynedd hyny gelwid yr ysbaid "Ysbaid gwledda yr urddawl ben". Gwledd Branwen a Matholwch a fu cyn eu myned i'r Iwerddon.

"Un diwrnod," ebai Heilyn ab Gwyn, "Drwg a'm goddiweddo onid agoraf y drws i wybod ai gwir a ddywedir am hyny." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Gernyw ac ar Aber Henfelen. A phan edrychasant yr oeddynt oll mor ymwybodol o'r colledion a gawsant, ac o'r holl geraint a chyd-ymdeithion a gollasent, ac o'r holl drueni a'i goddiweddasant, a phe digwyddasai y cyfan iddynt yn y fan hono; ac yn benaf am dynged eu harglwydd. Ac oherwydd eu haflonyddwch meddwl nis gallasent orphwys eithr cyrchasant gyda'r pen tua Llundain, a chladdasant ef yn y Gwynfryn. A hwnw fu y trydydd mad-cudd-pan guddiwyd; a'r trydydd anfad ddatgudd -pan ddatguddiwyd; gan na ddeuai ormes byth i'r ynys hon tra byddai y pen yn y cudd hwnw.

Ac fel hyn y mae'r hanes am y gwŷr a deithiasant o'r Iwerddon.

Yn Iwerddon nis gadawyd neb yn fyw namyn pump o wragedd beichiog mewn ogof yn y diffeithwch: ac i'r pump gwragedd hyny yn yr un cyfnod y ganed pum'mab a'r pum' mab hyny a fagasant hwy hyd oni ddaethant yn weision mawr, ac oni feddyliasant am wragedd. Chwe- nychasant gael gwragedd, a chymerasant famau eu cyd- ymdeithion yn wragedd, a gwladychu a chyfaneddu a